麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gethin Owen Pysgota m么r
Mae 'na ddigon o arfordir yn y gogledd orllewin i gadw unrhyw bysgotwr yn hapus. Gethin Owen o Sir F么n sy'n ein rhoi ar ben ffordd.
"Pysgota m么r yw dal pysgod o'r lan neu o gwch ar y m么r, gan ddefnyddio llinell a gwialen, sy'n wahanol i bysgota masnachol sy'n defnyddio rhwydi mawr.

"Mae gogledd Cymru wastad wedi bod yn boblogaidd iawn gyda physgotwyr m么r ac mae 'na nifer fawr o gyfleoedd i'r rhai sy'n newydd i'r chwaraeon a physgotwyr profiadol. Mae 'na lot fawr o wahaniaeth yng ngwely'r m么r yn yr ardal, o greigiau i fanciau tywod, fflatiau llaid a thraethau cerrig m芒n.

"Mae M么r Iwerddon hefyd yn llawn llongddrylliadau yn sg卯l rhyfeloedd a phrysurdeb Bae Lerpwl ac mae'r rhain yn gartref i nifer o fathau gwahanol o bysgod.

"I'r rhai sydd am bysgota o'r lan, mae 'na nifer o fannau poblogaidd i bysgota ar Ynys M么n, gan gynnwys Raven's Point, White beach, T欧 Croes, Parc Morglawdd Caergybi a mwy. Yma, mi allwch chi ddal gwrachen f么r, morleisiaid, cathod m么r, c诺n m么r a'r morgi glas.

"Mae'r traethau ger Bae Colwyn a Llandudno yn fwy enwog am eu draenogiad yn yr haf a phenfras ifanc yn y gaeaf.

"I'r rhai sydd am bysgota mewn cwch, gellir cyrraedd nifer fawr o'r llongddrylliadau yn hawdd ac mae'r mannau yma yn wych i ddal morleisiaid (pollack), penfras a chelog (coalfish), yn ogystal 芒 honos (ling) a llysywod m么r.

"Y Welsh Federation of Sea Anglers sy'n rheoli'r chwaraeon yma yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'r clybiau pysgota m么r yng Nghymru yn aelodau a'r ffederasiwn sy'n trefnu cystadlaethau a digwyddiadau ar raddfa wladol a lleol. Mae'r ffederasiwn hefyd yn cydweithio efo'r sefydliadau eraill sy'n edrych ar 么l y moroedd a'r traethau ac yn gweithio ar ran clybiau pan fo'r hawl i bysgota mewn ardal arbennig o dan fygythiad.

"Dwi ar d卯m pysgota m么r Cymru - mae chwech allan o'r saith aelod yn dod o'r gogledd a daethom yn bedwerydd allan o 19 o wledydd yn y bencampwriaeth ryngwladol yn 2005."

Mwy am bysgota cwrs a physgota plu.



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy