Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Chwaraewr tennis Tennis
O fwynhau gêm yn y parc i gystadlu yng nghynghrair y gogledd, does dim rhaid i chi fod yn un o fawrion Wimbledon i fwynhau gêm o dennis yn yr ardal hon. Cofiwch rannu eich profiadau tennis chi efo ni.

Mae gogledd orllewin Cymru yn dod o fewn ardal dennis Gogledd Cymru. Mae gan gymdeithas Tennis Gogledd Cymru swyddog datblygu sy'n gweithio gyda chynghorau Ynys Môn, Conwy a Gwynedd i helpu i hybu'r gêm yn yr ardal.

Mae deg clwb yn y gogledd orllewin lle gallwch chi fynd i chwarae ac mae dau ohonyn nhw yn ganolfannau tennis arbenigol gyda chyrtiau dan do (felly does dim esgus dros beidio ag ymarfer yn ystod y gaeafau gwlyb ac oer!)

Dechrau'n ifanc
Pam Alford o Gymdeithas Tennis Gogledd Cymru:
"Mae cyrtiau dan do Caernarfon a Bae Colwyn yn llefydd gwych i gyflwyno plant i'r gêm yn ifanc - maen nhw'n gallu dechrau mor ifanc â chwe mlwydd oed.

"Mae'r gynghrair iau yn cael ei rhedeg gan y Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA). Mae chwaraewyr ifanc yn cystadlu ar benwythnosau rhwng mis Mawrth a mis Awst mewn amrywiol gategorïau dan 18 oed. Mae enillwyr cynghrair gogledd Cymru yn mynd ymlaen i rownd derfynol y rhanbarthau ac, os yn llwyddiannus, i'r rowndiau terfynol cenedlaethol.

"Mae gan bob sir swyddog datblygu sy'n annog pobl i chwarae yn yr ysgol gan drefnu hyfforddiant a chystadlaethau."

Tennis hÅ·n
Mae'r brif gynghrair, a gaiff ei rhedeg gan Tennis Cymru, yn cael ei chynnal o'r Pasg hyd at fis Awst bob blwyddyn. Efallai y bydd cynghrair penwythnos yn cael ei sefydlu yn 2005, ond ar hyn o bryd mae chwaraewyr o'r gwahanol glybiau yn chwarae yn erbyn ei gilydd bob dydd Mercher am 6:30pm. Mae dwy adran ar gyfer dynion ac un ar gyfer merched.

Mae pencampwriaethau yn cael eu trefnu gan Tennis Cymru a'r Gymdeithas Tennis Lawnt ( LTA), felly cadwch lygad ar eu gwefannau i gael y wybodaeth ddiweddaraf (dolenni ar y dde).

Mae cost ymaelodi yn dibynnu ar y math o gyfleusterau sydd ar gael yn y clwb. Mae prisiau oedolion yn amrywio rhwng £30 a £100 y flwyddyn, gyda gostyngiadau i blant.

Felly, does dim rhaid ichi fod mor dda â Federer, Andy Roddick neu'r chwiorydd Williams i fwynhau gêm o dennis - mi all unrhyw un roi tro arni, ar unrhyw lefel.



Ar y Marc
Natur
Straeon Digidol


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý