Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cricieth
Mary Elen Jones Tref Marchnad Deg
Mae gwirfoddoli yn ffordd o fyw i Mary Elen Jones o Gricieth erbyn hyn, a does dim yn bwysicach iddi na'r ymgyrch dros Farchnad Deg.

"Dwi'n dod o'r ardal yma yn wreiddiol ond es i weithio fel athrawes yn Swydd Efrog am flynyddoedd. Yna, pan fu farw fy ngŵr, mi ddes yn ôl i Griccieth i fyw. Chwe mis ar ôl dod yn weddw, o weld fod 'na lawer yn y byd oedd yn cael amser llawer gwaeth na fi, cymerais y sialens ac es i wirfoddoli i siop Oxfam ym Mhorthmadog.

"Byddai pobl yn dod i mewn i'r siop ac, fel mae ganddynt yr hawl i'w wneud, yn dweud eu barn ac yn gofyn cwestiynau am y sefydliad nad oedd gen i'r profiad i'w hateb. Felly ysgrifennais i Rydychen a chefais wahoddiad i fynd lawr yno ar fwy nag un cwrs i ddysgu am y mudiad ei hun.

"Yna daeth y cyfle i mi fynd allan i Zambia a Thailand i wneud adroddiad am yr hyn roedd Oxfam yn ei wneud yno. Mi ddaeth y Âé¶¹Éç, rhaglen Byd ar Bedwar allan efo ni i Thailand i edrych ar y prosiect i wella'r sefyllfa gydag AIDS a HIV.

"Trwy hyn i gyd mi ddes i wybod am yr ymgyrch Marchnad Deg a dwi ar bwyllgor llywio Marchnad Deg Criccieth. Roeddwn mor hapus pan gafodd Criccieth ei henwi yn dref Marchnad Deg yn 2003 a daeth yr MEP, Jill Evans yma i'r seremoni.

"Mae 'na bythefnos o dynnu sylw at nwyddau Marchnad Deg yng Nghriccieth fel arfer ddechrau Mawrth. Yn 2006 rydan ni wedi sicrhau diwrnod ym Mhlas Glyn y Weddw i greu ymwybyddiaeth a rhoi hwb i ymdrech Pwllheli a Phorthmadog i gyrraedd nod tref Marchnad Deg hefyd.

"Ond nid ymgyrch unwaith y flwyddyn yw Marchnad Deg yma yng Nghriccieth. Mae 'na sawl siop sy'n gwerthu nwyddau gyda marc Marchnad Deg arnynt. Felly mae'n bwysig prynu'r nwyddau trwy'r flwyddyn, nid jest yn ystod y pythefnos arbennig.

"Amcan yr ymgyrch yw cael y nwyddau ar y stryd fawr, a dim mewn mannau arbennig - sicrhau eu bod ar gael i bawb trwy'r amser - ein bod yn gwneud daioni i'r byd wrth wneud ein siopa pob dydd.

"Mae 'na nifer o bethau efo 'fairly traded' arnynt, ond i gael defnyddio marc y 'Fair Trade Foundation', rhaid bod wedi pasio safon bendant. Nid yw cwmni yn gallu cyrraedd y safon yma - dim ond y nwydd uniongyrchol sy'n cael ei stampio.

"Dwi'n mwynhau fy ngwaith gwirfoddoli yn fawr iawn. Ond rhaid wastad fod yn barod i gario mlaen - weithiau does yna ddim immediate end product ac weithiau mi fyddan ni'n cymryd un cam ymlaen a dau yn ôl, ond rhaid dyfalbarhau.

"Ond mae wastad angen mwy o wirfoddolwyr, yn enwedig yn y siopau. Ar gyfartaledd, oedran y rhai sy'n gweithio mewn siopau elusen yw 70! Felly mae angen mwy o bobl ifanc. Ym Mhorthmadog, rydym wedi cael merch ifanc fel llywydd newydd ac mae'n wych i weld pobl ifanc yn cymryd rhan.

"Ond mae croeso i rywun 'bopio' mewn i'r siop am awr i helpu i sortio trwy'r pethau rydym wedi eu cael - does dim rhaid gweithio bob dydd trwy'r dydd. Gellwch jest dod yn eich amser cinio.

"I'r gwir wirfoddolwyr, mae helpu eraill yn dod yn ffordd o fyw i ni. Dydyn ni ddim yn gwisgo cylch uwch ein pennau fel angylion a dydyn ni ddim yn disgwyl diolch - er mae'n dda cael eich cydnabod weithiau!"


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý