麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dolgellau
Cerddwyr Dolgellau yn cerdded dros bont y Bermo Cerdded i ffitrwydd
Bob dydd Llun, mae criw o bensiynwyr o Ddolgellau yn dod at ei gilydd i ddal y bws o sgw芒r Eldon i gornel fach newydd o'r wlad brydferth o'u cwmpas i fwynhau diwrnod o gerdded ac awyr iach.
Ers ei sefydlu yn haf 2007 mae Gr诺p Cerdded Dolgellau wedi dod yn un o rai mwyaf llwyddiannus Gwynedd ar 么l cael ei sbarduno gan gynllun y Cyngor Chwaraeon, Let's Walk Cymru.

Mae tua 20 o deithiau hawdd ar eu rhaglen hyd yma - gan gynnwys tro o Abergwynant i'r George ac i lefydd fel Abaty Cymer a Choed y Brenin - oll yn llefydd y mae'r gwasanaeth bws lleol yn mynd heibio iddynt yn gyfleus.

Ar y bws Yn 么l Ann Jones, sy'n trefnu'r teithiau gyda'i g诺r, Gareth, mae'r aelodau wedi dod yn fwy ffit a bywiog ers dechrau cerdded a phrin yn sylwi eu bod yn cerdded mor bell - tua 3 neu 4 milltir fel arfer - gan eu bod yn sgwrsio ac yn mwynhau cwmni ei gilydd. Yr atyniad pennaf ydy bod allan ynghanol byd natur a chael cymdeithasu a mwynhau'r awyr iach, tra'n cadw'n ffit yr un pryd.

Mae croeso i bawb ymuno, er bod y rhan fwyaf dros 60 - ac felly'n gallu mynd ar y bws am ddim. Mae'r aelod hynaf yn 88 oed ac ymysg y rhai mwyaf egn茂ol yn y gr诺p sydd yn aml yn cymryd yr awenau fel arweinydd y daith. Aelod arall yw gwraig ddall sy'n dod ar y teithiau gyda'i chi tywys. Ond fe hoffai Ann a Gareth weld aelodau ifanc yn ymuno, gan gynnwys mamau gyda'u coetsys babi.

Gareth ac Ann Jones ar un o'u teithiau Ers ymddeol ar 么l symud i Ddolgellau yn 1964 - Gareth fel rheolwr siop WHSmith ac Ann i redeg gwesty - mae'r ddau (yn y llun ar y dde) wedi mwynhau cadw'n ffit a cherdded. Eu hoff dro yw drwy Gwm Hafod Oer: dal y bws i ben Talyllyn yna dod yn 么l ar hyd y llwybr beics sy'n dod allan yng ngwesty Fron Oleu, ac yna yn 么l ar hyd y ffordd i'r dref.

Maent yn cyfarfod am 10am bob dydd Llun yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion cyn cychwyn ar eu taith. Os hoffai unrhyw un ymuno ar y teithiau neu gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Ann Jones ar 01341 422 615. Am ragor o wybodaeth am gynllun Let's Walk Cymru a chadw'n ffit , cysylltwch ag Emma Quaeck, Cydlynydd Adfeiriad Cardiaidd ac Ymarfer Cyngor Gwynedd, ar 01766 512711.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy