|
Rydym wedi agor taith gerdded, sy'n cynnwys rhan o lwybr Cynwch ei hun, yn mynd o Ddolgellau i Lanfachreth.
Bydd yn cychwyn ym maes parcio Saithgroesffordd, rhwng Dolgellau a Llanfachreth. Yn gyntaf, bydd yn mynd i lawr tuag at hen weithfeydd copr y Glasdir. Er mai rhyw weithfeydd bach yng nghefn gwlad Meirionydd oeddent, mi ddaru nhw weddnewid cloddio am gopr dros y byd. Mi ddaeth dau frawd, yr Elmores, a gweithio rhyw sustem o gyfuno'r garreg, ar 么l ei malu, gydag olew; byddai'r olew yn glynu at y copr, ac felly'n creu ffordd llawer mwy effeithiol o ddod o hyd iddo. Lledaenodd y dechneg yma dros y byd.
Mae yna hen hanes i weithfeydd copr yng Nghoed y Brenin hefyd. Roedd yna gymaint o gopr wedi treiddio i mewn i'r mawn, fel y byddent yn ei losgi i gael y llwch a'i gario'r holl ffordd i lawr i Abertawe. Mae hwnna'n dipyn o daith, felly mae'n rhaid bod yna ddigon o werth yn y copr i gyfiawnhau'r gost o'i gludo.
Mae'r daith wedyn yn mynd trwy ardd goedwig y Comisiwn Coedwigaeth - yr arboretum - prydferth iawn, llawn coed newydd.
Yna, i lawr am bentref Llanfachreth, a chodi ar hyd y topiau. Nid yw'r daith yn mynd mor uchel 芒'r Rhobell Fawr, jest ar hyd ei godrau gyda'r golygfeydd bendigedig i lawr dros yr Aran a'r Fawddach. Yna i lawr trwy Ffridd Carmel ac yn 么l ar hyd y ffordd am Lanfachreth, heibio coed p卯n Corsica anferth o fawr. Maen nhw yn y llyfrau record am fod mor fawr - dim gymaint y taldra, ond eu trwch rownd y b么n.
Wedyn, yn 么l ar hyd hen ffyrdd y st芒d i'r maes parcio. Mae'n daith o ryw naw milltir - eithaf hir ond heb lawer o ddringo.
Cyn bo hir, mi fydd yna daith arall o amgylch Brithdir sy'n dilyn y llwybr ar hyd Afon Clywedog. Bydd yn cychwyn yn yr arosfa gyferbyn ag ysgol gynradd Brithdir. Taith sy'n hollol wahanol i Lanfachreth. Gyda'r daith i Lanfachreth, cewch olygfeydd eang allan dros y wlad ond mae llwybr Clywedog mewn ceunant, ac felly cewch naws hollol wahanol.
Dilynwch daith y Crynwyr
 |