麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ann Mary Williams Croesi'r cant
Mae canrif yn amser hir ond bu'n fywyd llawn prysurdeb i Ann Mary Williams o Rosmeirch, Ynys M么n, a fu farw ym mis Chwefror 2006 wedi dathlu ei phen-blwydd yn 104 yr haf cynt.
Bu Lleol yn sgwrsio gyda hi yn fuan ar 么l ei phen-blwydd.

"Ges i fy ngeni yn Rhosmeirch yn 1901. Roedd yn lle tawel iawn, t'oedd na'm gwerth o dai yma yr adeg honno.

"Roedd 'na ysgol fach, sy' wedi cau ers rhai blynyddoedd r诺an - mae'n ganolfan i'r hogia' ifanc erbyn hyn. Es i'r ysgol yna tan roeddwn yn naw mlwydd oed, wedyn i Langefni i'r ysgol fawr tan roeddwn yn 14.

"Dwi'n cofio un bore gadael yr ysgol a chyn cyrraedd adra, ddaru rhywun ddweud am drychineb y Titanic. Roedden ni i gyd wedi clywed am y llong ynghynt ac roedd pawb yn cr茂o, yn meddwl am y plant yn boddi - roedd wedi fy mrifo i'n fawr. Roedd hi'n dipyn o flynyddoedd cyn i ni weld y lluniau, ond roedd yn ddigon drwg ei weld yn fy meddwl.

"Dwi'n cofio pobl y plas, a phan oeddwn yn ifanc yn Rhosmeirch bydda Tregaean yn cael parti i blant yr ysgol ac mi fydden ni'n cael mynd yno, a dwi'n cofio mor falch o' ni i gael mynd i'r gerddi a chwarae ar y swings yn y coed, a'r hen gyrnol yn ein pwshad ni. Mae'r Lloyds yn dal i fyw yna heddiw.

"Wedyn roedd 'na Ysgol Sul. Mi fyddwn i'n chwarae'r organ i'r capel bob dydd Sul. Mi ddaru nhw brynu organ i mi adra gan fy mod yn licio ei ganu gymaint, a 'doeddwn i ddim hir yn dysgu'r emynau i gyd.

"Roedd y gweinidog Smyrna Jones yn dipyn o ddyn hefyd. Roedd ganddo fferm lefrith, siop wl芒n ac roedd yn weinidog i Rosmeirch a Botffordd. A chofiwch, doedd gan yr hen greadur ddim beic i fynd rownd pawb, mi fydde fo'n cerddad bob cam.

"Dwi'n cofio fo'n dod i'r cartref i'n gweld ni. Dydd Mercher oedd hi, diwrnod y seiat, a dwi'n cofio 'nhad y bore yna yn dweud wrth fy mam: 'Tydw i ddim am fynd i'r seiat heno', er ei fod yn flaenor ac felly roedd 'na ofyn iddo fo fynd.

"Ond pwy dd么th acw yn y pnawn ond yr hen Smyrna Jones. Ac wrth fynd, mi ddywedodd: 'Diolch yn fawr Mrs Williams,' i mam ac ysgwyd llaw, a throi at fy nhad a dweud: 'Wna'i ddim dweud gwd bei wrthach chi, William Williams, mi welai chi yn yr oedfa,' ac felly doedd ganddo ddim dewis ond mynd wedyn! A mam eisiau chwerthin!

"'Gaethoch chi eich dal,' medda hi'. 'Do,' medda dad, 'ond be' arglwydd oedd o isho dod draw heddiw?'

"Dwi'n cofio unwaith mynd i'r seiat a doedd mab Ty'n L么n 'ma, Gruffydd, ddim wedi dod, ond wedi aros allan i chwarae. Pan welodd Smyrna Jones yn dod, dringodd i ben goeden i guddio. Ond roedd Smyrna wedi ei weld o mae'n rhaid. Pan oedd wrth y goeden, sb茂odd i fyny a dweud 'Y sawl a ddyrchafo ei hun, Gruffydd Richard, a ostyngith!'

"Ond mi roedd o'n ddyn da. Daeth ata'i pan roeddwn yn ifanc iawn. Roedd hi'n oes dlawd, a dywedodd: 'Ylwch, 'swn i'n lecio eich gweld chi'n mynd i'r coleg'.
'Ond 芒 i ddim si诺r, Mr Jones'.
'Ond dwi' wedi helpu Mair yr Efail,' meddai. Roedd hi wedi mynd i'r coleg gan fod 'na ddigon yn ei phen hi ond roedd angen pres. 'Mae hithau'n talu n么l i mi, a dwi isho cynnig yr un peth i chi.'
'Dwi'n ddiolchgar iawn', meddwn i 'ond mae'n amhosibl i mi fynd. Mae Iwan yn ei wely'n wael, fedra i ddim stydio fel 'swn i'n licio ag yntau mor wael a'r t欧 mor fychan'.

"Ond ar yr un pryd roeddwn yn ddiolchgar iawn iddo am gynnig, chwarae teg. Pob parch iddo fo."

Mwy o hanesion, gan gynnwys dioddef o'r dici谩u a bywyd heb drydan ...


Papurau Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy