Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Faenol

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Faenol
Noson Tân y Ddraig
Adolygiad Lowri Evans

Wedi clywed cymaint am Å´yl y Faenol, a finnau heb fod erioed, roedd tynfa dathliad Âé¶¹Éç Radio Cymru yn ddeg mlwydd oed yn ormod i mi eleni.

Fentres i ddim i'r digwyddiadau mwy cain megis y gala operatig ac ati. Yn hytrach, ymunais gyda gweddill dilynwyr cerddoriaeth poblogaidd Cymraeg ar y noson ola' - Tân y Ddraig.

Gyda chot law dan un cesail a bocs o win gwyn rhad dan y llall, dyma fentro i fyd y Gogleddwyr!

Roedd holl gynlluniad y digwyddiad yn un deniadol a ffwrdd-â-hi. Roedd pawb yn canfod darn o borfa gwag ac yn gosod eu pac yno am y noson. Er, roedd pecyn rhai yn fwy uchelgeisiol na'r lleill ohonom. Cysgodwyd ein seddau ninnau, a wnaed o got a roddwyd oddi tanom, a'n bocs rhad o win gan wledd y criw drws nesaf. Roeddynt hwy, mynychwyr selog mae'n rhaid, wedi dod â seddau cyffyrddus, gwin coch drud, cawsiau drutach a hyd yn oed wedi cofio canhwyllau erbyn ei bod yn tywyllu!

Ond, er y rhychwant eang o oedran, dosbarth a blas a welwyd yno, fe brofom i gyd arlwy gyfoethog o gerddoriaeth Gymraeg byw. Cafwyd setiau gan fandiau mor amrywiol â John ac Alun, Meinir Gwilym a Frizbee. Braf hefyd oedd gweld Fflur Dafydd yn perfformio, ac Einir Dafydd yn canu'n gefndirol iddi. Wynebau cyfarwydd iawn i'r llond llaw ohonom oedd wedi teithio i fyny o'r De!

Mwynheais set Gwibdaith hen frân yn fawr. Mae eu halawon cofiadwy a'u rhythmau dwl yn aros yn y cof fel trac sain Haf 2007 i mi, a braf oedd ei gweld unwaith eto cyn diwedd yr Haf. Er, siomedig braidd oedd mai llwyfan bychan acwstig yn y blaen a roddwyd iddynt gan eu bod yn llawn haeddiannol o'r llwyfan mawr.

Cafwyd set gofiadwy gan Sibrydion yn ogystal. Meddwodd y dorf ar eu seiniau unigryw, gyda chymorth y bocsys gwin!

Uchafbwynt y noson i minnau oedd clywed hen anthemau'r anfarwol Huw Chiswell. Aeth criw ohonom i'r blaen i werthfawrogi 'Y Cwm' ac 'I be' yn union o flaen yr athrylith ei hun.

Artist olaf y noson oedd Bryn Fôn, a braf oedd ei weld yn mentro gyda chân neu ddwy newydd. Cafwyd set egnïol, fel arfer, a thyrrodd y dorf i'r blaen i ddawnsio.

Fe ddaeth y noson i ben gyda'r artistiaid i gyd yn camu yn ôl i'r llwyfan, a Bryn Terfel yn arwain y dorf i ganu'r anthem genedlaethol. Wedi hynny cafwyd arddangosfa dân gwyllt anhygoel i gloi Tân y Ddraig fythgofiadwy.



Cerddoriaeth
Radio Cymru
Gwyliau
Adolygiadau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý