Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Faenol

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Faenol
Y Terfeliaid
Mae Marion Davies o Lanberis yn un o sylfaenwyr Clwb Dilynwyr Swyddogol Bryn Terfel, y Terfeliaid. Mae wedi rhoi'r gorau i redeg y clwb bellach ond mae'n dal i helpu ar y stondin mewn gwyliau fel y Faenol.
(Ar y dde yn y llun gyda Carys ac Ifan Glyn Jones)

"Roedd criw ohonom wedi bod yn Lerpwl yn gwrando ar Bryn yn canu yn Don Giovanni yn 1993 a dyma un ohonom, cadeirydd y clwb wedyn, Mair Roberts, yn gofyn iddo 'reit, lle gawn ni fynd nesa?'

'Efrog Newydd', meddai Bryn.

"A dyma ni'n dechrau meddwl am y peth, casglu ryw 25 ohonom at ein gilydd a phenderfynu mynd.

"Ond mi landion ni yn Efrog Newydd efo 87 o bobl! Mi ddaeth cwmni teledu dod efo ni a gwneud rhaglen am yr wythnos gyfan, ac mi gafon ni andros o hwyl.

"Wedyn, roedd y criw eisiau cael aduniad bob blwyddyn, ac o hynny mi ddaru ni benderfynu dechrau clwb i'r 87 gwreiddiol i fynd ar dripiau i weld Bryn.

"Ond unwaith 'da chi'n cychwyn rhywbeth, mae'r gair yn lledaenu yma a fan draw ac mae'r peth yn tyfu!

"'Da ni wedi bod i Ffrainc, Amsterdam, America ac i Awstralia, a chael gweld Bryn yn y Sydney Opera House. Roedd o'n perfformio Falstaff ac roedd o'n wych - yn rêl Falstaff.

Pabell y Terfeliaid yn y Faenol "Wrth gwrs, roeddem yno am tua mis ac yn cael gweld lot o'r wlad hefyd - dyna i chi drip!

"Ond y trip cyntaf i Efrog Newydd oedd y gorau un, dyna lle gafon ni'r hwyl mwyaf - ond wedi dweud hynny, roedd pob un yn ffantastig.

"'Da ni'n meddwl ei bod hi'n ffantastig fod Bryn wedi trefnu'r Faenol - i feddwl fy mod yn gallu dod o fewn 8 milltir o'r tÅ· a gweld Shirley Bassey - mae'n wych.

"Da ni'n dweud bob blwyddyn mai dyna'r noson orau un yn y Faenol - mae'n amhosib cymharu o un flwyddyn i'r nesaf.

"'Da ni'n cael croeso mawr gan Bryn ym mhob man rydan ni'n mynd - mae o'n hoff iawn o'i Derfeliaid!

"Yn y diwedd, mi roedd sortio'r holl dripiau yn dod yn andros o lot o waith, yn enwedig wrth iddi ddod yn anoddach i gael y tocynnau. Felly mae'r tri gwreiddiol wedi rhoi'r gorau iddi - a phasio'r dyletswyddau ymlaen i'r rhai nesaf. Ond mae wedi bod yn brofiad..."

  • Terfeliaid brwd o America.


  • Cerddoriaeth
    Radio Cymru
    Gwyliau
    Ffilmiau


    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý