Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Garddio
Gerddi Portmeirion Portmeirion
Cafodd y gerddi yma sy'n amgylchynu pentref Eidalaidd y pensaer Clough Williams-Ellis eu plannu'n wreiddiol yng nghyfnod oes Fictoria.
Mae coed conwydd enghreifftiol oes Fictoria yn tyfu yno a phinwydd yr Himalaya a phinwydd Wellingtonia yn dal i dyfu yno.

Mae'r pentref, a oedd yn lleoliad ar gyfer y gyfres deledu gwlt enwog, The Prisoner, yn gartref i'r Diwlipwydden; Masarnen Fraith anferthol; Leimwydden Arian Wylofus, sy'n perarogli'r Pentref ym mis Awst; a choed Ffawydd a Llawryf mawr.

Yn yr oes Edwardaidd, cafodd y gerddi eu hymestyn i gynnwys 'Y Gwyllt' a ddatblygwyd fel coetir arddangos. Yma ceir Rhododendron, Asalea a Chamelia a Magnolia campbellii fawr sydd yn ddigon o ryfeddod bob yn ail Basg gyda'i blodau pinc enfawr.

  • Hanes Portmeirion

    Amser agor: Bob dydd heblaw Dydd Nadolig, o 9:30am i 5:30pm.

    Mynediad: Gallwch barcio'n agos i'r brif fynedfa yn y llefydd parcio arbennig i bobl anabl, ond dim ond tua hanner yr ardd sy'n hawdd i gadeiriau olwyn gael mynediad iddo oherwydd nifer y stepiau. Mae toiledau i'r anabl ar gael; ac wedi eu lleoli yn y brif borth ac yn y caffi. Chewch chi ddim mynediad i'r traeth os ydych chi'n cael problemau symud-o-gwmpas ond fe ellwch gael cludiant mewn bws mini os ydych chi'n rhy flinedig i 'w gwneud hi nôl i'r maes parcio o'r pentref.

    Lleoliad: Portmeirion, Penrhyndeudraeth, Gwynedd.

    Cyfarwyddiadau: O Borthmadog, gyrrwch dros y Cob a throwch i'r dde ar y sgwâr ym mhentref Minffordd a pharhau am filltir nes cyrraedd Portmeirion.


  • Cyfrannwch

    Cai Parry
    Mae Portmeirion yn le hardd iawn!


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Tywydd
    Natur
    Radio Cymru


    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý