Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llanrwst
Criw Ymatebwyr Cyntaf Dyffryn Conwy Y munudau cyntaf
Mae pob munud yn cyfri pan fo angen ambiwlans. Dyma Rhydian Owen o Lanrwst yn sôn am waith Ymatebwyr Cyntaf Dyffryn Conwy, sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion yr ardal.

"Dwi'n 17 ac eisiau bod yn baramedig yn y dyfodol, felly dwi'n gwneud gwaith gwirfoddoli efo Ymatebwyr Cyntaf Dyffryn Conwy. Er fod yn rhaid ichi fod yn 18 i fod yn aelod llawn, dwi'n helpu allan gyda chymorth cyntaf mewn digwyddiadau mawr ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r prosiect.

"Diben y prosiect yw ceisio sicrhau fod rhywun gyda sgiliau cymorth cyntaf yn cyrraedd claf o fewn amser byr ar ôl galw ambiwlans. Rydym yn gwasanaethu ardal o radiws o 10 munud. Mae cyrraedd cyn yr ambiwlans yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr pan fo rhywun yn cael trawiad ar y galon neu anhawster anadlu.

"Felly mi fydd pâr o wirfoddolwyr yn ymateb i bob galwad. Maent wedi cael hyfforddiant gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru mewn defnyddio defibrillator, rhoi ocsigen a mwy.

"Rydym felly am i bawb wybod am y cynllun, a gwybod beth i'w ddisgwyl pan mae rhywun o Ymatebwyr Cyntaf yn troi i fyny. Rydyn ni'n gwisgo crys-T coch, trywsus du a siaced gwyrdd a melyn.

"Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr. Does dim rhaid i chi allu gyrru, ond os nad ydych mae'n bwysig eich bod yn byw o fewn Llanrwst ac â'r gallu i gyrraedd y claf yn gyflym. Mae'n rhaid i chi fod rhwng 18 a 70 i wirfoddoli ac er fod pawb yn cael hyfforddiant gan y Gwasanaeth Ambiwlans, mae gwybod 'chydig am gymorth cyntaf yn help."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý