麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanrwst
Hen Lanrwst Yn 么l i Fryn y Boten
Datblygodd Llanrwst yn ganolfan trin crwyn a chynnyrch lledr. Bu tanerdy yn rhan o gymeriad Llanrwst ers canrifoedd. Ceir s么n amdano yn hanes Syr John Wynn am deulu Gwydir.

Roedd y coed derw a dyfai ar lechweddau y dyffryn yn cynhyrchu'r rhisgl gorau ar gyfer y tannin angenrheidiol. Mae J. Lloyd Williams yn cynnwys disgrifiad da o'r gweithgarwch hwnnw yn ei Atgofion Tri Chwarter Canrif.

Un o ddiwydiannau pwysicaf Llanrwst yn yr hen amser oedd gwneud lledr. Yr oedd yno ddau farcty, un ym Mhen-isa'r dre a'r llall yn y Plas Isa. Y pryd hwnnw ceid y tannin angenrheidiol o risgl y coed derw, ac roedd cyflawnder o dderw yng nghoedwigoedd Gwydir.

Am gryn fis bob Gwanwyn, byddai'n helynt a hanner yno - catrawd o w欧r, gwragedd a phlant yn gweithio'n brysur yn y coed, yn treulio'r dydd ar ei hyd, yn cynnau t芒n yn yr awyr agored, ac yn bwyta'u prydau; ac o hynny'n cael rhywfaint o flas y bywyd anwar y mae olion ohono yn par i lechu yng ngwaelod ei natur.

Gwaith y dynion fyddai torri i lawr y deri a farciwyd gan y coedwigwr a'u dewisai yn ddoeth, un oddi yma ac un oddi acw, ac nid dinoethi darn o wlad. Hyfryd fyddai clywed ergydion y byweill a 'shi, shi' y llifiau yn atseinio o lechweddau Carreg y Gwalch; yna yn gwrando am s诺n un o'r cewri yn cwympo, a'r cangau a'r brigau yn gwichian a griddfan wrth ddisgyn yn drwm yn erbyn y ddaear a'u hysigo a'u hollti. Ac yn awr, daw bwyell a llif i ddi-aelodi'r hen gawr a heriodd ystormydd pum canrif.

Fel haid o fwlturod, daw merched a phlant a gyrdd coed yn eu dwylo a churo a churo ar y rhisgl. Eu camp hwy fydd peidio 芒 malurio'r rhisgl ac ar yr un pryd malu'r haen o gelloedd tyner noddlyd a ffurfir bob gwanwyn rhwng y pren a'i risgl. Wedi gwneud hyn yn ddeheuig, gwaith hawdd fydd dirisglo'r coed - diosg y rhisgl oddi am y pren, a gadael hwnnw'n wyn-felyn ac yn llaith oherwydd y nodd a wasgwyd o'r celloedd newydd anedig. Cludid peth o'r rhisgl ar ei union i'r barcdai, a dodid ef yn y pyllau d诺r i fwydo'r tannin allan. Pentyrrid y gweddill yn deisi mawr cochddu i aros ei anfon i Loegr neu Iwerddon.

Ar derfyn dydd llawn prysurdeb, gwelid yr orymdaith yn mynd tua'r dre'; y merched a'r plant yn llusgo beichiau a changau a brigau'r derw yn goed t芒n. Ar eu holau byddai'r ffordd o'r Pren Gwyn i'r Bont wedi ei rhychu a'i llinellu gan y llusgo.

Yn y ddwy ysgol, ni byddai ond dyrnaid o'r plant mwyaf parchus, ac ychydig o waith a wneid nes byddai'r cynhaeaf rhisgl drosodd.

Crefftwyr y dre...


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy