麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dyffryn Nantlle
DR THOMPSON'S CASEBOOK
Nos Lun, Hydref 16 a dydd Iau 19, 麻豆社 Two Wales, 7pm
Yn ail raglen y gyfres Dr Thompson's Casebook, sy'n dilyn hynt a helynt y meddyg Dr Thompson a'i gleifion, mae Bethan Davies, 18 oed, yn dod i'r feddygfa am y tro cyntaf. Mae hi'n alcoholig ac wedi symud 24 o weithiau ers cael ei throi allan o'i chartref yn 16 oed. Mae'r holl symud yma golygu nad yw Bethan yn aros ddigon hir mewn un lle i gael yr help mae hi ei angen mor daer.

Mae'r Arglwydd Hanks o Avington yn byw gerllaw ym mhentref Llanllyfni gyda'i wraig o'r Ffilip卯n, Mary Anne, a'u babi Tyiler. Dyma'r unig glaf sydd 芒 theitl ym meddygfa Dr Thompson - teitl y mae wedi ei phrynu, nid ei etifeddu. Mae'r Arglwydd Hanks yn dipyn o gymeriad a'r unig berson lleol 芒 rhif personol ar ei gar, sy'n cynnwys y rhifau 007. Mae'n cyfaddef mai'r unig anfantais ydy fod pawb - gan gynnwys yr heddlu - yn adnabod ei gar.

Mae'r chwiorydd Llinos ac Eleri ill dwy yn gweithio yn y dderbynfa drwy'r wythnos. Yr wythnos hon, rydyn ni'n eu gweld yn mwynhau ar ddiwrnod allan yn rasys Caer. Mae'r diwrnod yn dechrau gyda diodydd am 10.30am - ddim yn rhy gynnar yn 么l y criw bywiog.

Mae rhaglen dydd Iau yn dod n么l at Bethan wrth iddi golli rheolaeth ar ei bywyd. Ar 么l noson o yfed trwm yng Nghaernarfon mae'n canfod ei hun yng nghelloedd yr Heddlu gyda dirwy o 拢80 am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fel rhywun sy'n dioddef drwy law ei hymddygiad hunan-ddinistriol ei hun, mae Bethan yn crefu cefnogaeth gan y system, ond oherwydd ei hamgylchiadau anffodus, mae hi'n syrthio drwy'r rhwyd.

"Does gen i ddim dyfodol ar y funud, dim byd a dweud y gwir - dim t欧, dim pres a dydi'r gwasanaethau cyffuriau ac alcohol ddim eisiau gwybod," meddai Bethan.

Mae Jean Snow o Gaernarfon yn glinigol or-dew. Unwaith roedd hi 9 st么n 9 pwys ond r诺an mae ei phwysau wedi cyrraedd 20 st么n 12 pwys ac mae'n dal i roi'r pwysau ymlaen. Ar 么l ceisio sawl diet aflwyddiannus dros y blynyddoedd mae'n gweld llygedyn o obaith wrth glywed am y bilsen colli pwysau sydd ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd. Mae'n penderfynu rhoi galwad ff么n i weld os gwnaiff Dr Thompson gytuno i roi presgripsiwn iddi.

Gyda dyfodiad y post yn y bore, mae Dr Thomspon yn cael anrheg gwerthfawr a defnyddiol - teclyn gwerth 拢700 sy'n ei alluogi i archwilio cyflyrau croen. Fe'i prynwyd diolch i gyn glaf ym meddygfa Bodnant ynghyd 芒 mainc er cof sydd wedi ei gosod y tu allan i ddrws y feddygfa.

  • Wythnos 1
  • Wythnos 3


  • Lleol i Mi
    Hanes
    Ffilmiau
    Digwyddiadau


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy