Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dyffryn Nantlle
Bywyd y dyffryn
... drwy lygaid plant Ysgol Bro Lleu (parhad).
Chwarel Dorothea

Beth am chwareli'r ardal?
Iwan
: Roedd tua 30 o chwareli yn arfer bod yn yr ardal ond dim ond dau sydd yn dal ar agor rŵan - Pen-yr-orsedd a Thanrallt.

Roedd pob tÅ· ar Stryd Hyfrydle yn Nhalysarn ar gyfer chwarelwyr. Maen nhw'n dai reit fach, er eu bod nhw wedi cael eu hymestyn erbyn hyn.

Glesni: Yn yr hen ddyddiau doedd ganddyn nhw ddim peiriannau a ballu i sicrhau bod y gweithwyr yn ddiogel, felly roedd pawb wastad yn gweithio efo partner. Doedden nhw ddim yn cael eu talu llawer chwaith ac roedd yn rhaid iddynt weithio oriau hir.

Elin: Roeddent yn gwisgo bŵts trwm a hetiau mawr. Pan fyddent yn torri'r llechen flynyddoedd yn ôl, mi fydden nhw'n anadlu'r llwch a mi ddaru llawer farw oherwydd hynny.

³§¾±Ã´²Ô: Roedd yn rhaid iddyn nhw roi dŵr ar y llechi cyn eu torri i drïo stopio'r llwch rhag gwneud y gweithwyr yn sâl.

Iwan: Maen nhw'n dweud fod 'na ysbrydion yn hen chwarel Dorothea ger Talysarn, yn enwedig yn hen dÅ·'r perchennog. 'Da chi'n gallu eu teimlo nhw yna - hyd yn oed pan mae'n gynnes, 'da chi'n gallu mynd yn oer i gyd.

Oedd gan Owain Glyndŵr unrhyw gysylltiadau efo'r dyffryn?
Iwan
: Byddai Owain Glyndŵr yn dod i Ddyffryn Nantlle lot. Roedd yn rhaid iddo fynd i Gaernarfon lot a byddai'n aros yma.

Jest wrth i chi fynd mewn i Barc Glynllifon mae 'na ddelwedd efo fflag Glyndŵr arno ac maen nhw'n sôn am afon Llifon yn yr hanesion am dano. Efallai ei fod o wedi aros yn ymyl Glynllifon.

³§¾±Ã´²Ô: Yn y cychwyn, ddaru o ymladd efo'r Saeson ond pan ddaru o glywed bod Sais wedi dwyn arian gan Gymro, ddaru o benderfynu ymladd dros Gymru. Roedd o eisiau rhyfel yn erbyn y Saeson i'w cadw nhw allan o Gymru a ddaru o anfon llongau i'r Iwerddon i gael help.

Ddaru Owain Glyndŵr ddod â llywodraeth i Gymru a phenderfynodd mai Machynlleth oedd prif ddinas Cymru.

Yn y diwedd ddaru o golli a rhedeg i ffwrdd i fyw mewn ogof - maen nhw'n dweud fod ei ysbryd yn dal mewn ogof yn y mynyddoedd ond does neb yn siŵr ym mhle.

Iwan: Ddaru nhw ennill rhai brwydrau ond daeth un ar ôl y llall ac roedd yn ormod iddynt. Heddiw, mae'r Saeson dal i gymryd drosodd yng Nghymru. Maen nhw'n symud i mewn ac yn cymryd tai oddi ar Gymry sydd angen rhywle i fyw, jest iddynt gael tai gwyliau.

Bysai'n neis cael llywodraeth i Gymru ac i'r iaith Gymraeg fod yn ddiogel yn y dyfodol.

(±·Ã´±ô) (Ymlaen)


Lleol i Mi
Hanes
Ffilmiau
Digwyddiadau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý