麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Porthmadog
Carol Hayes Cyfnod roc a r么l
O redeg ar 么l hogiau o'r Eidal i roc a r么l yng Nghaffi'r Cob, roedd Port yn dipyn o le yn y pumdegau meddai Carol Hayes a ddaeth i sgwrsio efo ni ar yr Hysbys ar ymweliad 芒'r dref.
"Bro fy mebyd a bro fy nhadau yn 么l i 1700 yw Porthmadog - 'dwi wedi byw yma erioed.

"Pan oeddwn yn blentyn, doedd yna ddim nwy cenedlaethol yma - roedd Port yn gwneud ei nwy ei hun. Mae'r adeilad yn dal yna - os ewch i lawr Stryd yr Wyddfa, mae'r hen weithfeydd nwy ar y dde.

"Roeddwn yn byw ar y stryd yma, a dwi'n cofio mynd i weld y dynion wrth eu gweith - yn ddu drostynt wrth iddyn nhw luchio glo i mewn i ffwrneisi mawr.

"Meddyliwch am y datblygiad 'da ni wedi ei wneud - dim ond 50 mlynedd yn 么l roeddem yn gwneud ein nwy ein hunain yn y dre 'ma.

"Roedd Porthmadog yn dre hollol Gymreig yr adeg honno. Roedd ychydig dros gant o blant yn fy mlwyddyn i yn Ysgol Ramadeg Meirionnydd, a dim ond rhyw ddeg yn Saeson - ac mi fyddent yn troi'n Gymry ymhen dim.

"Fel pobl ifanc yn Port roeddem yn meddwi lot! Yn enwedig yng ngwesty'r Queens! Dim tan y chweched dosbarth wrth gwrs - er ei bod yn well i mi beidio dweud mwy gan fod y ddynes oedd pia'r dafarn yn dal yn fyw!

"Byddem hefyd yn eistedd yn Caffi Cob, lle mae Cob Records heddiw - os nad oedd rhywun yn yr ysgol, dyna lle fyddech chi'n gallu dod o hyd iddynt!

"Roedd 'na roc a r么l ar nos Sadwrn yn y British Legion ar Stryd yr Wyddfa ac roedd Neuadd y Dref gyda chloc mawr lle mae Woolworths heddiw, gyda mwy o ddawnsfeydd roc a r么l a jeifio. Ew, roeddwn wedi anghofio am hyn i gyd!

"Y band mwyaf ar y pryd oedd Dino and the Wildfires. Hogyn Cymraeg oedd Dino, Eurwyn Pearce oedd ei enw iawn dwi'n meddwl. Mi fuon nhw yn Llundain - ma'n si诺r ei fod yn dal o gwmpas Port yn rhywle.

"Bob haf byddai cannoedd o hogiau o'r Eidal yn dod i weini ym Mhortmeirion. Felly byddai Port yn gwagio bob haf - ar 么l yr hogiau Eidaleg oeddem ni, nid hogia Port! Mae lot o ferched yr ardal wedi priodi Eidalwyr - mae un o fy ffrindiau agos wedi priodi un ac wedi setlo yn Chwilog!"

  • Os ydych chi eisiau ychanegu eich atgofion chi, gweld mwy am Borthmadog ar y 麻豆社 neu gyfrannu straeon, lluniau, syniadau neu hanes o'r ardal, dewch i'n gweld ni ar yr Hysbys ym Mhorthmadog ddydd Mawrth 24 Hydref. Cliciwch yma am fanylion

  • Cyfrannwch

    Mark Brooker
    Mae Dino dal yn gigio ogwmpas yr ardal, fo dysgodd guitar I mi i ddechra. Uffar o foi.


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Adolygiadau


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy