Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Porthmadog
'Yng nghesail y moelydd unig ...'
"Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws?
A bywyd hen fugail mor fyr?"

Dyna ganodd Eifion Wyn, y bardd o Borthmadog, am y cwm yma uwchben Garndolbenmaen. Aeth Llinos Roberts yno gyda'i chamera ar ddiwrnod braf o Wanwyn i dynnu'r lluniau yma ac mae Sion Jones o Abergele wedi cyfrannu hefyd.


Olion chwarel
Olion chwarel lechi yng Nghwm Pennant next page
1Ìý 2Ìý 3Ìý 4Ìý 5Ìý 6Ìý 7Ìý 8Ìý 9Ìý 10Ìý

Yng nghesail y moelydd unig,
Cwm tecaf y cymoedd yw -
Cynefin y carlwm a'r cadno
A hendref yr hebog a'i ryw:
Ni feddaf led troed ohono,
Na chymaint a dafad na chi;
Ond byddaf yn teimlo fin nos wrth fy nhân
Mai arglwydd y cwm ydwyf fi.

Hoff gennyf fy mwthyn uncorn
A weli'n y ceunant draw,
A'r gwyngalch fel od ar ei bared,
A Ilwyni y llus ar bob llaw:
Os isel yw'r drws i fynd iddo,
Mae beunydd a byth led y pen :
A thincial eu clychau ar bwys y tÅ·,
bob tymor, mae dwyffrwd wen.

Os af fi ar ambell ddygwyl
Am dro i gyffniau'r dref,
Ymwrando y byddaf fi yno
Am grawc, a chwibanogl a bref,-
Hiraethu am weled y moelydd,
A'r asur fel mor uwch fy mhen
A chlywed y migwyn dan wadn fy nhroed,
A throi 'mysg fy mhlant a Gwen.

Mi garaf hen gwm fy maboed
Tra medraf fi garu dim;
Mae ef a'i lechweddi'n myned
O hyd yn fwy annwyl im :
A byddaf yn gofyn bob gwawrddydd,
A'm troed ar y talgrib lle tyr
Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws?
A bywyd hen fugail mor fyr?
Eifion Wyn (1867 - 1926)


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý