Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pwllheli
The Guild of Incompetence. O Lithfaen i Fongolia!
Aeth Dylan Jones a Gareth Davies o ben LlÅ·n i Ulan Batar, prifddinas Mongolia, mewn Ford Fiesta. Roedd y ddau yn rhan o'r Mongol Rally, ras flynyddol o Lundain i Mongolia.
Enw'r tîm o ben Llŷn oedd The Guild of Incompetence - camenw oedd hwn, gwnaeth y ddau Gymro y siwrnai 8000 milltir mewn mis gan ddod yn 27ain allan o 200 o dimoedd.

Nid oedd y daith heb ei anhawsterau a'i rhwystredigaethau. Un o'r amseroedd caleta' i'r 'Guild' oedd bod yn gaeth mewn pentref heb dafarn yn Rwmania am chwe niwrnod.

A bu bron iddyn nhw fethu cychwyn o Lundain. Gwrandewch ar Gareth yn adrodd hanes diflaniad y car ar forau'r ras!

gwrandoY fiesta'n diflannu puncture awr o Ulan Batar

Wrth gwrs, dim ras fel y cyfryw yw'r Mongol Rally ond antur a chyfle i godi arian. Dylan gafodd y syniad o gymryd rhan, daeth ar draws y ras wrth syrffio'r we am bartiau i'r fan. Gareth sy'n esbonio am gynllunio'r ffordd allan - a newid cynlluniau am i Dylan anghofio papurau Moldofa! (Dylan sydd i'w glywed yn protestio yn y cefndir!)

gwrandoY daith o Lunden i Ulan Batar

Wedi rhoi mil i elusenau trefnwyr y ras mae'n rhydd i bob tîm i rhoi arian i elusen o'u dewis. Dewisodd Dylan a Gareth elusen Ysbyty Bryn Beryl, ysbyty fechan yn Llŷn. Dylan sy'n adrodd yr hanes.

gwrandoCodi pres

gwasdadoedd canol Asia Doedd y bwyd ddim yn wych, collodd Dylan stôn a hanner. Gwrandewch arno'n hybu deiet newydd hynod o lwyddiannus - bîtrwt, saim a ffa pob.

gwrandoFfa pob

Beth am neud y daith eto? Oes na Guild of Incompetence yr ail yn mynd i fod?
gwrandoGwneud y siwrnai eto?

Pethau Mawr Bywyd, Dydd Sul, Tachwedd 4, Âé¶¹Éç Radio Cymru, 12.05pm Ail-ddarllediad Dydd Mercher, Tachwedd 7, Âé¶¹Éç Radio Cymru, 6pm



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý