麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tywyn
Castell y Bere Brenhinoedd a thywysogion
Gydag un o gestyll Tywysogion Cymru, Castell y Bere, gerllaw, David Roberts o Drefriw Fawr, Aberdyfi sy'n ein tywys yn 么l mewn amser i gyfnod y tywysogion yn ardal Dysynni.
"Mae yna nifer o olion o Oes y Cerrig ger Aberdyfi, fel yr hen gerrig sefyll sy' ger Groesfaen ac uwchben Cwm Maethlon. Dywedodd un ffermwr wrtha'i bod yna fedd brenin Gwyddelig o dan y cerrig ar ei dir ac mae yna weddillion eglwys Wyddelig heb fod ymhell o'r fan yna hefyd. Pam roeddent yma?

Dyna un o'r pethau mwyaf diddorol, ydy nad ydym yn gwybod pam bod y cerrig yma, ond mae hanes iddynt yn sicr ac maent yn dangos bod dynolryw wedi bod yn byw yma am ganrifoedd.

Cyfnod diddorol arall oedd Oes Tywysogion Meirionnydd. Dros yr afon o Aberdyfi y mae Talybont. Y fferm yma oedd un o hoff gartrefi tywysogion Meirionnydd, ac yn hwyrach tywysogion Gwynedd hefyd pan ddaeth y tir rhwng y Ddyfi a'r Fawddach i'w dwylo nhw yn y 12fed ganrif. Roeddent wrth eu boddau'n byw ger yr afon.

Roedd dipyn o wrthryfel rhwng y tywysogion - mae yna s么n am hen frwydr jest tu allan i Dywyn rhwng Trehaearn a'i gefnder adeg Gruffydd ap Cynan. Allwn ni ddim rhoi'r bai i gyd ar y Saeson am ymladd!

David Roberts Mae gennym ni hefyd Castell y Bere ym Meirionydd wrth gwrs. Cafodd ei adeiladu tua 1221 gan Llywelyn Fawr, sef Llywelyn ap Iorwerth. Ddaru o gadw'r castell am ryw 60 mlynedd cyn ei basio 'mlaen i'w 诺yr, Llywelyn ap Gruffydd - yr un a gafodd ei ladd yng Nghilmeri. Ar 么l iddo farw, ddaru ei frawd ddal ei afael ar y castell tan Ebrill 1283 pan gafodd ei gipio gan filwyr o Loegr, a'i ddienyddio. Ac felly daeth Edward 1af i feddiannu'r castell.

Aeth ati i restru'r holl ffermydd yn yr ardal er mwyn hel trethi wrth gwrs. Wrth edrych ar y rhestr gellid gweld fod nifer fawr o'r ffermydd yna dal i fod heddiw, fel Caethle, Trefeddian a Trefriw Fawr (ein fferm ni).

Ddaru o hefyd geisio sefydlu tref o gwmpas y castell, ond doedd o ddim yn llwyddiannus gan ei fod yn rhy bell o bobman."

  • Darllenwch fwy am Gastell y Bere a hanes ardal Dysynni

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Theatr


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy