MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() |
Chwaraeon Y Tywydd |
||
| Âé¶¹Éç Homepage Cymru'r Byd Addysg |
||
| » | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
|
Y tyrau yn ein bywyd
"Yr oedd hi fel rhyw fath o ysgol, bod gyda Gwenlyn yn yr Adran Sgriptiau yn y Âé¶¹Éç," meddai William Jones a fuÂ’n cydweithio ag ef ac syÂ’n awr yn un o dîm Pobol y Cwm. "Pedwar ohonon - Meical Povey, Sion Eirian, Dewi Williams a finnau oedd yn ei gario fo ar ei daith olaf. Y fo oedd yn ein cario ni ers talwm," meddai. Yr oedd William Jones yn siarad newydd iddo orffen twtioÂ’r ddrama Y Twr ar gyfer cynhyrchiad newydd. "Ddoe ddiwetha gorffennais i," meddai. "A wyddoch chi be? Awr yn ddiweddarach daeth y newydd fod yna ddau dwr yn America wedi eu dymchwel. "Twr crwn oedd twr Gwenlyn - bywyd yn troi mewn cylchoedd. Tri chyfnod mewn bywyd - ieuenctid, canol oed a henaint. "Yn y diwedd maeÂ’r hen wr am gael ei ollwng yn urddasol o boen yr ‘hen elynÂ’ - dyna fyddai Gwenlyn yn galwÂ’r canser - yn y diwedd. "Roedd Gwenlyn yn sgrifennuÂ’r geiriau hynny yn y saithdegau. Ac yr oedd oÂ’i hun yn mynd drwyÂ’r un boen ddeng mlynedd yn ôl. Rhyfedd ynte? Holme Towers oedd enwÂ’r lle ym Mhenarth y treuliodd ei ddyddiau olaf. "Bu farw bedair blynedd, bron iÂ’r diwrnod iÂ’w gyfaill Rhydderch Jones. Bu Rhydderch farw ar Dachwedd 4 - roedd Gwenlyn yn ei golli foÂ’n arw ond mi fydda foÂ’n cellwair weithiau: trueni na fuasai Rhydderch wedi byw un diwrnod arall, iddo gael mynd gyda bang ar ddydd Guto Ffowc. "Mi gafodd Gwenlyn fynd ar ddydd Guto Ffowc - rhyfedd ynte? "Mi fyddaÂ’r ddau yn rhyw fudur bryfocioÂ’i gilydd - pan oeddan nhwÂ’n gweithio ar Fo a Fe - ‘Ti oedd yn rhoi min ar fy mhensal i.Â’ Pethau fel yna. Os oes yna ryw lawr arall yn y Twr - rhyw atic neu rwbath, maeÂ’n siwr yÂ’u bod nhw wrthiÂ’n pryfocioÂ’i gilydd y funud hon." |
|
© MMI |
|
About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |