Owain Glyndŵr
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Cyflwyniad i'r bywyd Owain Glyndŵr
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16
Pwnc : Hanes
Testun : Cymru ganoloesol, Byd canoloesol
Allweddeiriau : Tywysog Cymru, Owain Glyndŵr, Gwrthryfel Glyndŵr, Senedd, Castell Harlech, Machynlleth
Nodiadau : Defnyddio'r clip i gyflwyno Owain Glyndŵr gan bwysleisio ei weledigaeth arbennig i Gymru ar ddechrau'r 15fed ganrif. Ystyried y dehongliad mai bradwr ac nid arwr oedd Owain Glyndŵr - cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o sut a pham y mae dehongliadau haneysddol yn cael eu creu. Cwestiynau am y clip: Pryd coronwyd Owain Glyndŵr yn dywysog Cymru? Beth oedd gweledigaeth Owain Glyndŵr i Gymru? Beth oedd ei gysylltiad â Lloegr? Beth oedd tacteg rhyfela milwyr Glyndŵr? Ble roedd senedd Glyndŵr? Pam roedd y Tuduriaid yn ystyried Glyndŵr yn fradwr? Sut mae gweledigaeth Owain Glyndŵr wedi cael ei gwireddu heddiw? Ail-leisiwyd yn y Gymraeg o'r gyfres wreiddiol. Gweler a am ragor o glipiau a gwybodaeth am y cyfresi gwreiddiol.
Mwy
Cysylltiadau'r Âé¶¹Éç
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.


