Recriwtio Milwyr o Gymru
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Rôl Lloyd George yn recriwtio Cymry i'r fyddin y Rhyfel Byd Cyntaf.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+
Pwnc : Hanes
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Byd yr ugeinfed ganrif
Allweddeiriau : Rhyfel Byd Cyntaf, Cychwyn Rhyfel 1914, Militariaeth, Recriwtio, Y Corfflu Cymreig, David Lloyd George, Newid a gwrthdaro yng Nghymru tua 1900-1919, Datblygiad Cymru 1900-2000, Cymru Ewrop a'r Byd
Nodiadau : CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai o unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: : Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1900-1919. Datblygiad Cymru, 1900-2000.
Safon Uwch: Cymru a Lloegr, tua 1900-1919. Newid a Gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1918.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Ystyried pa mor arwyddocaol oedd David Lloyd George i recriwtio milwyr o Gymru. Disgrifio'r gwahanol ddulliau o ddenu dynion ifanc i ymuno â'r fyddin. Cymharu dulliau recriwtio milwyr i'r fyddin heddiw gyda'r negeseuon a gyflëwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf - ceisio egluro'r gwahaniaethau/tebygrwydd. Ystyried dilysrwydd y clip fel tystiolaeth i hanesydd sy'n cynnal ymholiad i recriwtio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am ddulliau i berswadio dynion i ymuno â'r lluoedd arfog. Meddwl a thrafod fel grŵp beth fyddai'r prif resymau dros wirfoddoli i ymuno â'r fyddin. Ymarfer trawsieithu gydag araith Lloyd George - ceisio ysgrifennu araith debyg yn Gymraeg.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall rôl allweddol David Lloyd George i recriwtio Cymry ifanc i'r fyddin. 2) Deall y dulliau a ddefnyddiwyd i recriwtio dynion yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mwy
Cysylltiadau'r Âé¶¹Éç
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.


