Er yn nofel gyda ditectif ynddi dywedodd Elin Llwyd Morgan nad nofel dditectif yw
Mae Llygaid gan y Lleuad
"Nofel gymdeithasol ydi hi yn y bon efo elfen o stori dditectif," meddai.
Ychwanegodd iddi ddewis yr elfen dditectif "er mwyn cael elfen gref o blot".
Mae'r nofel wedi ei lleoli yn nyffryn Ceiriog lle mae'r awdur yn byw ers 12 mlynedd.
Ond dywedodd mai Sir F么n mae'n ei ystyried yn gartref.
Ymhlith y cymeriadau mae person awtistig a bu Elin yn trafod gyda Dei Tomos fagu ei phlentyn awtistig ei hun.
"Yr oeddwn yn awyddus i greu cymeriad awtistig cwbl gredadwy," meddai.
Mae'n s么n hefyd am ddylanwad ei mam, Jane Edwards sydd hefyd yn nofelydd.
"Doedd gweld Mam yn sgwennu drwy'r dydd dydd ddim yn rhywbeth wnaeth fy ysbrydoli i," meddai.
Ychwanegodd bod ei dull hi o sgrifennu yn gwbl wahanol i un ei mam.