Yn 么l Iwan Llwyd mae "unrhyw beth yn y b么n" yn farddoniaeth.
"Yr oeddwn yn arfer meddwl fod yn rhaid sgwennu am bethau dwys a difrifol ac emosiynol ond mae barddoniaeth mewn unrhyw beth - yn y glaw sy'n syrthio ar y stryd. Ym mhopeth dwi'n weld mae yna farddoniaeth," meddai'r bardd a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990.
Ers hynny mae Iwan Llwyd yn fardd sydd wedi teithio'n eang ac wedi bod yn gysylltiedig 芒 sawl rhaglen deledu.
Mae'r teithio yn arwyddocaol oherwydd dywed mai cerddi taith a gyfansoddodd Syr T H Parry-Williams yn ne America yn 1925 fu'r sbardun iddo sgrifennu.
Dangosodd Parry-Williams, meddai, nad oes raid i rywun sy'n sgrifennu yn y Gymraeg sgrifennu am Gymru yn unig.
Am farddoniaeth dywedodd wrth Dei Tomos ar 麻豆社 Radio Cymru:
"Y ddelwedd i mi ydi popeth mewn barddoniaeth."
Trwy ddelweddu dywed y gall y bardd droi rhywbeth cwbl gyffredin - fel gwenoliaid yn yr awyr - yn ddelwedd o rywbeth arall.
Am y llyfr sydd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn dywedodd ; "Fuasai hi ddim yn gyfrol heb waith Marian" - gan gyfeirio at y lluniau sydd ynddi wedi eu tynnu gan Marian Delyth.