麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
麻豆社 CymruMosgito, Pethau personol

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Wyt ti'n fwli?

Wyt ti'n fwli?

Yr arwyddion Wyt ti'n pigo ar rywun neu'n ei wthio o gwmpas? Wyt ti'n poeni rhywun drwy'r amser? Neu wyt ti'n rhan o griw sy'n codi ofn ar rywun? Ydy hi'n bosib bod rhywun wedi teimlo bo' ti neu dy ffrindie wedi'i fwlio?

Ond jyst tynnu coes ydw i... Mae bwlio yn difetha bywydau pobol. Bob blwyddyn, mae tua 16 o blant ym Mhrydain yn lladd eu hunain ar 么l iddyn nhw gael eu bwlio. Mae llawer o blant eraill yn tangyflawni achos bo' nhw'n methu canolbwyntio ar eu gwaith ysgol, neu ma' nhw'n cadw draw o'r ysgol er mwyn osgoi'r bwlis. Er bod rhai yn llwyddo i gael y gorau ar y bwlis mae'r profiad yn gallu effeithio ar eu hyder a'u perthynas 芒 phobol eraill am amser mawr.

  • Llynedd, dywedodd 69% o bobol ifanc eu bod nhw wedi cael eu bwlio. Arolwg Cenedlaethol o Fwlio 2006
Beth ddylet ti wneud? Galli di ddewis ymddwyn yn wahanol. Pam wyt ti'n teimlo bod angen i ti bigo ar bobol? Wyt ti'n teimlo'n well wrth wneud i rywun arall edrych yn fach? Neu wyt ti'n ofni y byddi di'n cael dy fwlio os nad wyt ti'n dangos pwy yw'r bos? Beth bynnag yw'r rheswm, dim pigo ar bobol eraill yw'r ateb. Byddi di'n teimlo'n llawer gwell os wyt ti'n delio 芒'r pethau hyn yn iawn. Cer i waelod y dudalen er mwyn gweld pa fath o help sydd ar gael.

Paid gadael iddo ddigwydd Trwy droi dy gefn ar rywun sy'n cael ei fwlio a gwneud dim i'w helpu, rwyt ti'n helpu'r bwlis. Os wyt ti'n gweld rhywun yn cael ei fwlio bydd yn ddigon dewr i ddweud wrth rywun.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy