Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
Âé¶¹Éç CymruMosgito, Pethau personol

Âé¶¹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Dyslecsia

Dyslecsia

Beth yw dyslecsia? Ma' dyslecsia yn meddwl "problemau â geiriau". Mae e'n effeithio ar un o bob deg ohonon ni, ac yn effeithio ar rai yn fwy nag eraill. Ma' pobol enwog â dyslecsia yn cynnwys Jamie Oliver, Richard Branson a Scott Quinnell.


Os ydyn ni'n diodde o ddyslecsia:

  • Rydyn ni'n aml yn cael trwbwl gyda darllen, ysgrifennu a sillafu. Mae e'n cymryd mwy o amser i ni wneud y pethau hyn. Ni'n gorfod gwneud mwy o ymdrech.
  • Falle bod ein sgiliau siarad yn well na'n sgiliau ysgrifennu.
  • Rydyn ni'n dysgu'n well trwy wneud pethau a rhoi cynnig ar bethau.
  • Yn aml, rydyn ni'n dda iawn mewn pethau eraill fel celf, drama, cerddoriaeth, chwaraeon, mecaneg, adrodd storïau, gwerthu, busnes, cynllunio, adeiladu neu beirianneg.
  • Falle bo' ni'n cael llond bol yn yr ysgol achos bo' ni'n cwympo tu ôl i'r disgyblion eraill mewn rhai pynciau, neu achos bod rhywun yn dweud bod rhaid i ni wneud mwy o ymdrech, neu achos bo' ni'n cael ein rhoi i eistedd wrth y bwrdd 'araf'.

Pam fod pobol yn diodde o ddyslecsia? Dyw dyslecsia ddim yn meddwl bo' ni'n dwp - dyw e'n ddim byd i wneud â pha mor glyfar ydyn ni. Ma' pobol â dyslecsia yn gallu ennill sgôr uchel iawn mewn profion IQ. Yn aml, ma' dyslecsia yn rhedeg yn y teulu.

Fi'n credu bo' fi'n diodde o ddyslecsia - beth ddylwn i wneud? Os wyt ti'n meddwl bo' ti'n diodde o ddyslecsia, cer i siarad ag athro. Gall drefnu bod arbenigwr yn gwneud profion i weld os wyt ti'n diodde o ddyslecsia.

Sut ma' trin dyslecsia? Os oes dyslecsia 'da ti, dylet ti gael cymorth yn yr ysgol. Bydd hyn yn helpu ti i ddod dros y problemau sy'n gysylltiedig â dyslecsia fel bo' ti'n gallu cyrraedd dy botensial llawn.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r Âé¶¹Éç yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Oes rhywbeth ti eisiau trafod? Anfon neges at Mosgito.

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.




About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý