Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Âé¶¹Éç Homepage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Bootnic
Bai Ar Gam

Artist: Bootnic

Enw'r CD: Bai Ar Gam

Label: Crai

Traciau'r EP:
1. Un Bywyd
2. Y Garavan
3. Cenfigenus
4. Heck
5. Blondan Mewn Bikini
6. Dau Wynebog

Adolygwraig:
Chloe Morgan

Mae'r band yn swnio yn ifanc iawn ac yn eithaf fresh. Mae'r caneuon bywiog yma yn gwneud i chi dawnsio fel ffwl! Does dim gair arall i ddisgrifio'r band yma ond "Pop". Felly os da chi'n hoffi'ch caneuon "pop" dyma'r band i chi. Mae'r band yn eithaf tebyg i fandiau "pop" Saesneg ac yn defnyddio'r gitar a'r dryms. Dyma'r fersiwn Gymraeg o Busted!!

Uchafbwyntiau y CD:
Yn fy marn i y gân orau ar y C.D ydi'r gân gyntaf sef "Un Bywyd". Mae'n agoriad dda i'r C.D. - mae'r gân yn fywiog ac yn gwneud i chi symud yn eich sedd.
Mae'r gân "Cenfigenus" yn gân dda iawn hefyd - mae ganddi eiriau dda a theimlad cynnes iddi.

Isafbwyntiau y CD:
Dwi'n trio penderfynnu pa gân ydi'r gwaethaf rhwng "Y Garavan" a "Heck". Mae "Y Garavan" yn gân eitha' da, ond dwi ddim yn gallu gweld y pwynt canu cân am Garafan! Yn anffodus mae bechgyn Bootnic wedi cesio odli popeth yn y gân yma - ac mae'n boenus i wrando arno!
Unwaith eto yn y gân "Heck", mae sôn am y pethau rhyfeddaf erioed - hogyn yn deffro yn y bore gyda ddwy ferch yn ei wely... ac mae nhw wedi bwyta'r creision yd i gyd!! Dydw i ddim yn gwybod beth sy'n bod ar y gân yma ond dydw i ddim yn cael y teimlad yna sy'n dweud "Dyma gân dda". Mae gormodedd o'r gair "Heck" yn cael ei defnyddio ynddi hefyd!

Y peth gorau am y CD:
Yr arddull ifanc ac hwylus sy'n gwneud i chi fod eisiau dawnsio! Hefyd y ffaith bod y geiriau yn hawdd i'w deall, felly mae modd eu dysgu nhw'n syth a chanu hefo'r gân!

Y peth gwaethaf am y CD:
Y ffaith bod nhw'n swnio fel pob band pop arall, a'r ffordd mae nhw'n trio odli pob gair!

Clawr y CD:
Y clawr oedd beth wnaeth fy nhynnu at y CD yma. Mae ganddo liwiau llachar a gwaith celf da (a rhyfedd)! Mae enw'r band wedi cael ei ysgrifennu'n fawr ar y blaen, ac mae'n sefyll allan yn dda... ac mae llun o doiled ar y clawr cefn!

Marciau allan o 10:
Byswn yn rhoi 6.5 allan o 10 iddo gan fod y caneuon yn ffresh, bywiog ac yn gwneud i mi fod eisiau dawnsio (ond yn sôn am pethau hollol di-bwys)!! Mae'r band ychydig yn rhy "pop" i fi!

Eisiau gwybod mwy:
Cliciwch ar un o'r canlynol os am fwy o fanylion:

Nid yw'r Âé¶¹Éç yn gyfrifol am unrhyw wefan y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý