Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Âé¶¹Éç Homepage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Y Diwygiad, Anweddus...
Merthyr - 19.01.07
Owain Williams


Adolygydd?
Owain Williams

Lleoliad?
Canolfan Gymraeg Merthyr Tydful

Y Bandiau?
Y Diwygiad, Anweddus

Awyrgylch?
Mi roedd y 'stafell yn cynnal yn dorf yn berffaith a bu awyrgylch bywiog trwy gydol y perfformiadau. Er nad oed yr ystafell yn llawn, roedd digonedd o bell ffordd i gynnal gig cryf. Fel un o ddigwyddiadau cyntaf hysbysiedig y ganolfan, credaf y bydd pethau da i'w gweld yno yn y dyfodol.

Trac y noson?
Bu "Mewn Can Mlynedd" yn gofiadwy iawn a phwysleisiau'r band ei neges wleidyddol am yr iaith. Rhaid dweud dyma oedd trac y noson.

Disgrifiwch y Perfformiadau?
Anweddus
Agorwyd y noson gan Anweddus, band weddol leol o'r Rhondda yn chwarae set gytbwys o ganeuon gwreiddiol a chaneuon poblogaidd. Roedd llais hyderus James Saunders yn eistedd yn gyfforddus dros waith medrus ei adran rhythm (bâs a drymiau). Chwaraeai'r brif gitar yn hyderus, a cododd pawb ar eu traed pan ddechreuwyd riff o fersiwn ddiddorol Gymraeg o gân Feeder, Buck Rogers. Wedi solo bass anhygoel funk cwbwlhawyd set Anweddus gyda James Saunders yn canu fersiwn o Suspicious Minds gan Elvis Presley. Bu'r dorf yn gefnogol iawn o'r perfformiad a gobeithio y byddent yn parahau i gynyddu'r defnydd gwreiddiol yn ei set ar gyfer y dyfodol.

Y Diwygiad
Ar bapur byddech yn debyg o dybio byddai dau aelod y band yn rhoi delwedd gwag i'r llwyfan. Mewn gwirionedd, roedd perfformiad bywiog a phroffesiynol y gwyr hip hop yn llenwi'r adeilad. Dangosodd Ed Holden (Mr Phormula) ei allu trawiadol i beat -bocsio a gadawyd y dorf yn geg agored ganddo. Serenwyd Nei Karadog (Nine Tonne) fel rapiwr Cymraeg haeddianol. Cynheswyd y neuadd a bu aelodau'r gynulleidfa'n awyddus i symud i flaen y llwyfan, gan hyd yn oed cynnal cystadleuaeth 'dance off' i'w ffrindiau. Wrth ddweud hyn, ni chollodd y gig ei ffocws, wrth i'r Diwygiad gynnal set gyflawn arbennig.

Y peth gwaethaf am y noson
Yn anffodus, bu problemau bach gyda'r system PA trwy gydol y ddau berfformiad. Er hyn enillodd y dyn sain reolaeth dros y system mewn amodau anodd. Nid oedd y broblem yn ddigonol i amharu ar y caneuon.

Achlysur Roc a Rôl
Daeth digwyddiad mwyaf roc a rôl y noson pan daflodd James Saunders gweddill y band oddi ar y llwyfan i ganu ar ben ei hun. Roedd ei hyder yn amlwg trwy gydol ei berfformiad, a chymeradwyaf ei allu.

Beth sy'n aros yn y cof?
Rhaid dweud daeth uchafbwynt y noson wrth i fechgyn lleol redeg i flaen yr ystaell mewn cyffro i wneud 'break dance' tra oedd Mr Phormula yn beat bocsio

Marciau allan o ddeg
7.5

Gwefannau Defnyddiol?


Nid yw'r Âé¶¹Éç yn gyfrifol am wefannau allanol

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý