Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Âé¶¹Éç Homepage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Pala, Y Cyffro, Frizbee
Neuadd Buddug, Y Bala
Tachwedd 2004


Lle a phryd :
Neuadd Buddug, Y Bala. Nos Wener 19eg o Dachwedd 2004.

Y bandiau :
Pala, Y Cyffro, Frizbee

Awyrgylch :
Mi oedd y lle'n reit wag fel y disgwyl yn Bala, ond mi lenwodd tua'r diwedd a mi gafwyd chydig o ddawnsio gwirion i Frizbee hefyd [iep, fi nath]. Roedd ymateb y gynulleidfa yn rhyfeddol dda, a'r neuadd digon bach i beidio amlygu'r prinder o bobol oedd yno!

Trac y noson :
'Eglura' gan Pala. Mae'r dryms yn chwarae rhan wych yn y gân, a mae'r rhythms yn cwl. Dyma'r gân orffenodd set Pala, a mi ddangoswyd nhw ar eu gorau.

Disgrifiwch y perfformiadau:
Pala ~ Band anghyffredin oherwydd y dewis o offerynau, dryms, allweddellau a llais. [dim gitar!]. Perfformiad hyderus a rhythmig, caneuon swynol a theatrig. Melodig iawn. [och dwi'n swnio fel beirniad steddfod yr urdd]. Wiwer !

Y Cyffro ~ Yn anffodus, nath Y Cyffro ddim fy nghyffroi i o gwbwl. Mi oedd y perfformiad yn undonnog ac yn ddiflas, ac yn fy atgoffa i o'r math o fand-gwneud bysa'n chwara mewn priodas neu benblwydd priodas hen anti ac yncyl. Mi chwaraeon nhw gyfyrs o hen ganeuon Cymraeg da fel Draenog Marw ar y ffordd, a mi oedd o'n stincio. Os ydach chi'n darllen hwn, plis rhowch eich gitars yn y tô rwan.

Frizbee ~ Perfformiad mor dyn a top pot mango chutney. Roc a Rol go iawn. Roedd pob cân yn wych, y rhai oddi ar yr albym Hirnos yn cael ymateb da, yn enwedig y clasuron 'Dora Gusan' a 'Ti'. Mi chwaraewyd caneuon oddi ar yr EP newydd fydd allan ar y cynta o Ragfyr, Lennonogiaeth, a mi aeth rheini lawr yn dda - edrych 'mlaen i glywed yr EP !

Uchafbwynt y noson :
Ymateb y gynulleidfa i 'Dora Gusan' a 'Ti', wiwer!

Y peth gwaethaf am y noson :
Bod hi mor wag, er bod gigs yn yr ardal yn brinach 'na ymweliad wiwerod coch i'r cwpwrdd dwr poeth.

Achlysur Roc a Rol :
Gwallt Ywain Frizbee ! Neu bod Rhys Mwyn a Gwilym Morus wedi cerdded mewn, yn Bala ! [hmm ella bod hyna'm yn achlysur roc a rol. Yn sicir ddim roc a rol, mwy fel affro-beats...]

Beth sy'n aros yn y cof? :
'Dw i'n falch o gyhoeddi mod i'n cofio bod dim, diolch yn fawr.

Talent gorau'r noson :
Osian, drymar ifanc Pala [13]. Yn chwarae'r dryms fel pe bai o wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd lawer, gwych!

Marciau allan o ddeg :
6.42

Un gair am y gig :
Cnau !

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? :

yym, peidiwch byth a cymeryd fferins gan bobol ddiarth...!

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý