Peryglon bwrdd Ouija, ac ymhel yn fwriadol ag ysbrydion.
Peth peryglus ym marn llawer yw ymh茅l yn fwriadol ag ysbrydion. Rhybuddiodd neb llai na'r awdur toreithiog Dennis Wheatley am y peryglon.
Ac, yn wir, dim ond person ff么l fyddai'n chwarae 芒 bwrdd Ouija. Cymharodd rhywun hynny a defnyddio'r teleffon ar antur - hynny yw, deialu unrhyw rif a gwahodd pwy bynnag sy'n ateb i ddod i'ch cartref.
Perygl peth mor anghyfrifol fyddai gwahodd Jac y Rhwygwr yno. Gwawdied y sawl a fynno, ond wyddoch chi ddim pa ryw gythraul a gaiff ddrws agored atoch felly. Ac ni fyddai'n hawdd cael gwared 芒 hwy wedyn.
Trafodwyd peryglon ysbrydion gan fy nghyfaill Alan Murdie, bargyfreithiwr a chyn Gadeirydd y Ghost Club yn ddiweddar, ac un o gyfrolau awdur enwog yn y maes, Elliott O'Donnell oedd Dangerous Ghosts.
Arswydo
Yng Nghymru gallai ysbrydion fod yn beryglus nid oherwydd eu bod yn gallu niweidio rhywun yn gorfforol ond o ganlyniad i'r arswyd a achosent. Sonia Edmund Jones am rai o'r canlyniadau ac yn y clasur o hanes plwyf 'Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr', mae Daniel E. Jones yn cyfeirio at G诺n Bendith y Mamau - a elwir yn G诺n Annwn neu wrth amrywiaeth o enwau eraill ar draws Prydain).
"Adroddir llawer o chwedleuon, pa fodd yr oedd y bechgyn a merched ieuainc, gwrol ac iach, ar 么l eu gweled, yn dihoeni a marw".
Yr oedd ef ei hun wedi cyfarfod a rhywun un noson, 30 mlynedd cyn hynny, oedd newydd gael ei ddychryn ganddynt a sonia'r awdur hefyd sut y bu gweld toili yn ardal Penboyr yn farwol i un hen wraig.
Dywed am ddyn o Langeler a fu farw yn fuan ar 么l y profiad ofnadwy o orfod cyd-symud ag ysbryd angladd am bellter mawr.
Peth cyffredin o fewn c么f llawer oedd gollwng ergydion o ddryll ar 么l priodas. Digon tebyg nad oedd yn ddim mwy yn eu golwg hwy, mewn cyfnod diweddar, na th芒n gwyllt i ddathlu'r digwyddiad hapus ond ei wir darddiad oedd dychryn ysbrydion aflan ymaith oddi wrth y p芒r dedwydd.



