|
Gwneud
Deryn Digridili
Bydd angen:
- Plu amrywiol
- Potel blastig
- Glud di-wenwyn
- Cerdyn melyn
- Siswrn papur
- Papur gwyn
Cafodd y Tweenies hwyl fawr yn gwneud yr aderyn yma! Pam na wnei di dy
aderyn bach dy hun a'i hongian i fyny yn dy stafell? Gofyn i oedolyn dy
helpu a rho gynnig arni!
1. Cymryd y botel blastig a'i gorchuddio gyda glud.
2. Gludo'r plu o amgylch y botel. Gludo mwy o blu ar y pen i wneud cynffon
yr aderyn.
3. Cymryd y cerdyn melyn a'i droi i siâp pig a gludo fe at ei gilydd
gyda thâp gludiog.
4. Rhoi'r côn
melyn dros wddw'r botel a gludo fe i lawr gyda thâp gludiog.
5. Gwneud dau lygad allan o bapur gwyn a gludo nhw i ymyl pen yr aderyn.
Clymu darn o gortyn o amgylch yr aderyn a'i hongian o'r nenfwd!
|