|
Gwneud
Pobol Papur
Bydd angen:
- Darn o bapur
- Pen
- Siswrn diogel
- Peniau ffelt (hepgorol)
- Tâp gludiog(hepgorol)
Os hoffet wybod sut i wneud merched a bechgyn papur yn union fel rhai'r
Tweenies, yna mae modd dysgu sut i'w wneud yma. Gofyn i oedolyn dy helpu
a rho gynnig arni!
1. Cymryd y darn o bapur a'i blygu i chwe darn cyfartal.
2. Tynnu llun amlinell hanner person (bachgen neu ferch) ar y darn cyntaf
o bapur. Gwneud yn sicr bod breichiau a choesau'r person yn diflannu oddi
ar ymyl y tudalen.
3. Yn ofalus, torri ar hyd amlinell y person ac wedyn datblygu'r papur.
4. Nawr, fe fyddi di'n gweld dy fod wedi creu tri pherson papur yn union
fel rhai'r Tweenies!
5. Os hoffet addurno dy Bobol Papur, defnyddio peniau ffelt neu ddeunyddiau
lliwio eraill.
6. Os hoffet wneud grwp o fechgyn a merched fel gwnaeth Jake a Milo, yna
gwna ddau set o bobl; un yn fechgyn a'r llall yn ferched, a gludo eu coesau
a'u breichiau wrth ei gilydd gyda thâp gludiog!
|