Diwrnod Dathlu Gwneud Gwahaniaeth
Diwrnod i ddathlu'r gwirfoddolwyr arbennig sydd mor weithgar yn ein cymunedau ar Âé¶¹Éç Radio Cymru - 5 Mehefin 2026
Ddydd Gwener y pumed o Fehefin mae’n Ddiwrnod Dathlu Gwneud Gwahaniaeth ac mae Âé¶¹Éç Radio Cymru yn rhoi sylw i'r bobol sydd yn dod â chymunedau ynghyd i wneud gwahaniaeth bach a mawr.
Fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr, rydyn ni’n dathlu’r unigolion arbennig sy’n rhoi o’u hamser i helpu eraill. O gefnogi elusennau ac achosion lleol i fod yn gefn i aelodau fwy bregus ein cymdeithas, gall gwirfoddoli newid bywydau a chymuned.
Felly beth am roi cynnig arni? Os nad wyt ti erioed wedi gwirfoddoli – neu heb wneud ers tro – dyma’r amser perffaith i ddechrau!
Rho dy amser. Gwna wahaniaeth.
Bydd seremoni wobrwyo Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd fis Medi i ddathlu rhai o arwyr mawr ein cymunedau.