Main content

Sgwennu Stori Aled Hughes 2026

Mae rhaglen Aled Hughes ar 麻豆社 Radio Cymru yn cyflwyno cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru.

Mae 3 categori eleni; y cyntaf i ddisgyblion ysgol cynradd sydd ym mlynyddoedd 2, 3 a 4. Mae’r ail hefyd i ddisgyblion ysgol cynradd ym mlynyddoedd 5 a 6. Ac eleni am y tro cyntaf, mae categori i ddisgyblion uwchradd ym mlynyddoedd 7, 8 a 9.

Y beirniaid fydd Ani Ll欧n a Siôn Tomos Owen, fydd hefyd wedi ysgrifennu dechrau’r stori i chi. Mae angen i chi orffen y stori – ac mae croeso i chi fynd â’r stori i le bynnag mae’ch dychymyg chi’n eich arwain!

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei lansio yn swyddogol ar raglen Aled Hughes ar 13eg o Ionawr 2026.

Bydd ceisiadau yn cael eu beirniadu ar sail y meini prawf canlynol:

  • Gwreiddioldeb
  • Plot
  • Cymeriadu
  • Iaith
  • Mwynhad

Bydd y dyddiad cau am 5pm ar Fawrth 5ed 2026.

Noder bydd yr enillwyr bellach yn cael eu cyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar 28 Ebrill 2026, ble bydd yr enillwyr eu hunain yn derbyn rhodd gan y Cyngor Llyfrau, ynghyd â chlawr digidol wedi ei gynllunio ar gyfer y straeon buddugol.

Os am gystadlu, rhaid i'r ysgol anfon eu straeon byrion drwy’r ysgol (ynghyd â ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru) i Radio Cymru erbyn y dyddiad cau, 5pm ar Fawrth 5ed 2026.

Y cyfeiriad yw:
Sgwennu Stori Aled Hughes
麻豆社 Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi'n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda. Bydd angen i'r ysgol gadw rhestr o'r enwau sy'n cyd-fynd â'r ffugenwau.

Mae hefyd modd uwchlwytho’r straeon drwy uwch-lwythwr y 麻豆社

Gwnewch yn si诺r eich bod wedi darllen y Telerau ac Amodau a'r Hysbysiad Preifatrwydd cyn cystadlu.