Cefndir
Mae prosiect Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yn dangos sut wnaeth y rhyfel effeithio ar fywydau pobl gartref. Bydd degau o'r straeon yn cael eu darlledu yn 2014 ac wedi hynny, ar radio ac ar y we.
Straeon lleol y Rhyfel Mawr
Bydd pob stori yn canolbwyntio ar leoliad 鈥� maes awyr, ysbyty, ysgol, eglwys, sgw芒r y dref, theatr, stryd fawr, cartref, capel 鈥� i ddangos sut wnaeth y pethau ddigwyddodd yno ddylanwadu ar y hynt y rhyfel.
Sut wnaeth gweithwyr yn ein ffatr茂oedd helpu i gyflenwi鈥檙 milwyr ar faes y gad, sut wnaeth dyfeisiadau technolegol newydd chwyldroi鈥檙 brwydro a sut wnaeth bygythiadau鈥檙 gelyn newid ein glannau a鈥檔 pentrefi am byth?
Mae Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yn rhan o brosiect mwy y 麻豆社, sef . Bydd yn dechrau ar ddiwedd Chwefror 2014, gyda straeon yn cael eu darlledu ar Radio Cymru a Radio Wales, ar orsafoedd radio鈥檙 麻豆社 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac ar radio lleol a theledu rhanbarthol drwy wledydd Prydain.
Bydd y straeon i gyd ar gael ar-lein gyda mwy eto yn mynd yn fyw yn ystod 2014 a thu hwnt.
Ein partneriaid
Mae鈥檙 麻豆社 wedi ffurfio partneriaeth gydag Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth (Imperial War Museums, IWM) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau i鈥檞 helpu i ymchwilio i鈥檙 straeon ar gyfer y prosiect.
Mae鈥檙 IWM wedi rhoi cyfle arbennig inni ddefnyddio eu harchifau a鈥檜 harbenigwyr gan ddatgelu trysorfa o straeon, llawer ohonyn nhw鈥檔 cael eu clywed am y tro cyntaf, yn ogystal 芒 ffotograffau, clipiau sain a ffilmiau o鈥檙 archif.
Gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau mae academyddion ac arbenigwyr hanes wedi rhoi eu hamser a鈥檜 gwybodaeth i newyddiadurwyr ac ymchwilwyr y 麻豆社, gan roi cyd-destun hanesyddol, straeon posib a chyswllt gydag amgueddfeydd, sefydliadau ac arbenigwyr lleol. Mae hwythau hefyd wedi bod yn hael iawn yn rhoi eitemau a goleuni newydd ar yr hanes drwy eitemau o鈥檜 casgliadau eu hunain.
Bydd pob stori yn cael ei chyhoeddi ar-lein a bydd ar gael i wrando arni unrhyw bryd. Bydd hyn yn creu archif ddigidol heb ei thebyg o ddarnau sain, fideo a lluniau. Bydd y straeon wedi eu trefnu yn 么l ardal (gorsaf radio leol neu genedlaethol yn achos y wefan Saesneg) neu yn 么l thema (fel y Rhyfel yn yr Awyr, Merched, Meddygaeth, Gweithio dros y Rhyfel, Crefydd, Chwaraeon, Anifeiliaid).
Gwrandewch ar straeon o鈥檆h ardal chi ar Radio a Theledu y 麻豆社. Dewch o hyd i straeon o wledydd Prydain i gyd ar-lein, neu drwy ddilyn #WW1AtHome.
