Main content

Telerau ac Amodau ar gyfer Partneriaid yr Å´yl

_______________________________

GÅ´YL ART THAT MADE US

Telerau ac Amodau Partneriaid y Prosiect

_______________________________

Caiff y Cytundeb hwn ei wneud

RHWNG:

(1) Y GORFFORAETH DDARLLEDU BRYDEINIG, 1 Portland Place, Llundain W1A 1AA (y “Âé¶¹Éç”); a

(2) “Partner yr Å´yl”.

1. DIBEN

Bydd Gŵyl Art That Made Us yn rhedeg ochr yn ochr â chyfres deledu nodedig o’r un enw, a fydd yn darlledu ar Âé¶¹Éç Two yn gynnar yn 2022. Gan adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Civilisations, bydd Gŵyl y flwyddyn nesaf yn dathlu creadigrwydd mewn partneriaeth ag amgueddfeydd, orielau, archifdai a llyfrgelloedd ledled y wlad.

Mae Gŵyl Art That Made Us yn hanes diwylliannol newydd mawr yn Ynysoedd Prydain, gan archwilio sut mae gweithiau celf, llenyddiaeth, dylunio a cherddoriaeth o bwys wedi helpu i siapio ein stori greadigol. Mae’r gyfres yn olrhain naratif cyffrous a dadleuol, sy’n canolbwyntio ar waith celf a ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnodau cythryblus a llawn tensiwn: mudo cyson a’r goncwest yn ein hanes cynnar; trawma’r Pla Du yn yr Oesoedd Canol; cynnwrf crefyddol y Diwygiad; y Rhyfel Cartref; y Chwyldro Diwydiannol; a thwf dinasoedd a dychwelyd i’r oes wledig. Mae hefyd yn stori am arloeswyr, tarfwyr ar y drefn a gweledigaethwyr, a oedd yn ymateb i ddigwyddiadau mawr ac yn ailddiffinio ein celfyddyd a’i phosibiliadau.

Mae pob rhaglen yn canolbwyntio ar wyth i ddeg gwrthrych anhygoel ac yn archwilio’r hyn a ddatgelir am drobwynt yn ein hanes. Wedi’u cymryd o orielau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd o bob cwr o’r wlad, mae rhai gweithiau’n adnabyddus ac eraill wedi cael eu hanwybyddu. Mae’r gyfres yn cynnwys cyfraniadau gan amrywiaeth eang o artistiaid sydd wedi’u hysbrydoli gan y gorffennol, a sylwadau a dadansoddiadau hefyd gan haneswyr a churaduron diwylliannol.

Bydd yr Å´yl yn gwahodd amgueddfeydd, orielau, archifdai a llyfrgelloedd i drefnu digwyddiadau i sbarduno trafodaeth, ehangu dealltwriaeth a rhannu syniadau am yr hyn a olygir gan y term creadigrwydd. Mae cyfleoedd hefyd i gydweithio ymhellach â’r Âé¶¹Éç fel y disgrifir isod. Bydd yr Å´yl yn cael ei chynnal rhwng 1-30 mis Ebrill 2022, er gall partneriaid gynnal digwyddiadau unrhyw bryd yn ystod cyfnod darlledu’r gyfres ddechrau 2022.

Mae sael elfen i'r bartneriaeth hon, fel y disgrifir isod. Cewch ddewis cyfranogi cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch chi. Y gofyniad sylfaenol i fod yn Bartner yr Å´yl, fodd bynnag, yw i chi gynnal o leiaf un digwyddiad yn ystod cyfnod yr Å´yl.

2. Y Âé¶¹Éç

  • Bydd y Âé¶¹Éç yn darlledu cyfres deledu nodedig ar hanes creadigrwydd, sydd eisoes yn cael ei chynhyrchu
  • Bydd y Âé¶¹Éç yn darparu crynodebau rhaglenni ar gyfer partneriaid, a rhestr o rai o’r amcanion sydd yn y gyfres, i helpu gyda chynllunio digwyddiadau
  • Bydd y Âé¶¹Éç yn adlewyrchu digwyddiadau dethol ar ei lwyfannau
  • Bydd y Âé¶¹Éç yn rhannu manylion archifau sydd ar gael sy’n ymwneud â chreadigrwydd, a lle bo hynny’n rhesymol, yn sicrhau bod deunydd archif ar gael i’w ddefnyddio gan randdeiliaid a phartneriaid
  • Bydd y Âé¶¹Éç yn cyfeirio cynulleidfaoedd at restri
  • Bydd y Âé¶¹Éç yn darparu brandio i bartneriaid
  • Bydd y Âé¶¹Éç yn gweithio gyda llwyfannau digidol i ddod â’r holl gynnwys at ei gilydd mewn un lle
  • Bydd y Âé¶¹Éç yn anfon cylchlythyrau gwybodaeth rheolaidd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bartneriaid am sut i gymryd rhan yn yr Å´yl (e.e. pryd i ddisgwyl brandio, clipiau o gyfresi)

3. PARTNERIAID YR Å´YL

  • Drwy dderbyn y Telerau ac Amodau yn y cytundeb hwn, rydych yn cytuno i ddod yn un o Bartneriaid yr Å´yl.
  • Byddwch yn creu digwyddiad(au) cyhoeddus wedi’u hysbrydoli gan themâu Art That Made Us, neu’n cysylltu gwaith allgymorth a digwyddiadau presennol â’r themâu, neu’n ymgysylltu ag un o’r offer digidol sydd ar gael ar gyfer y prosiect.
  • I hyrwyddo eich digwyddiad, byddwch yn ei gofrestru ar Museum Crush Culture 24, a fydd yn darparu categori pwrpasol ar gyfer y digwyddiadau hyn.
  • Byddwch yn gwneud yn siŵr bod unrhyw asedau neu gyfranwyr rydych chi’n eu defnyddio yn gallu cael eu clirio gennych chi i’w defnyddio ar deledu a radio’r Âé¶¹Éç yn y DU ac ar-lein yn fyd-eang.
  • Byddwch yn lawrlwytho ac yn defnyddio’r brand.

4. THE EVENTS

  • Bydd eich digwyddiad yn cael ei frandio fel “Dylanwadwyd gan Art That Made Us”. Gellir defnyddio’r brandio hwn ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yn ystod cyfnod darlledu’r gyfres yn 2022.
  • Gall digwyddiadau gael eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb.
  • Bydd eich digwyddiad yn rhad ac am ddim neu’n adennill costau i’r cyhoedd. Chi fydd yn gyfrifol am yr holl gostau (ond os bydd y Âé¶¹Éç yn penderfynu gosod darllediad allanol yn eich digwyddiad Chi, bydd y Âé¶¹Éç yn gyfrifol am y costau hynny).
  • Bydd gan leoliad y digwyddiad yswiriant priodol neu sicrwydd priodol arall ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, a bydd yn cydymffurfio â'r deddfwriaethau perthnasol o ran mynediad, iechyd a diogelwch, diogelu plant a diogelu data.
  • Rhaid i bob digwyddiad gydymffurfio â COVID yn unol â chanllawiau’r llywodraeth ar gyfer eich ardal chi ar adeg y digwyddiad.

5. MUSEUM CRUSH

  • Fel Partner yr Å´yl, byddwch yn cofrestru eich digwyddiad ar wasanaeth Culture 24, Museum Crush.
  • Os nad ydych chi wedi cofrestru â chronfa ddata DDE Culture 24 yn barod, bydd angen i chi ymuno â’u rhwydwaith a chytuno ar eu Telerau Defnyddio.
  • Bydd Culture 24 yn rhoi rhestr lawn o ddigwyddiadau Art That Made Us ar eu gwefan.

6. BRANDIO

  • Bydd dolen i’r asedau brandio a chanllawiau ar sut i’w defnyddio yn cael eu hanfon atoch ar ôl i chi dderbyn y Telerau ac Amodau, ac ar ôl i chi gael eich derbyn fel un o Bartneriaid yr Å´yl.
  • Ceir manylion am y drwydded frandio yn Atodiad I.
  • Drwy lwytho’r asedau i lawr, rydych Chi’n cytuno i lynu wrth y canllawiau brandio.
  • Dim ond yn ystod cyfnod darlledu’r gyfres y gellir defnyddio’r asedau.

7. ARCHIF

  • Bydd y Âé¶¹Éç yn darparu mynediad at ddetholiad o asedau archif i’w defnyddio gan Bartneriaid yr Å´yl ar thema eang Creadigrwydd. Bydd y rhain ar gael i ychwanegu at eich digwyddiadau neu eich cynnig Creadigrwydd digidol, naill ai ar neu ar eich gwefannau eich hun. Byddant ar gael i’w cynnwys o fis Rhagfyr 2021 ymlaen a byddant yn rhwym wrth delerau cyffredinol sy’n debyg i rai .

  • Bydd y Âé¶¹Éç yn gweithio gyda phartneriaid dethol i gynhyrchu straeon ac erthyglau penodol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, gan ddefnyddio cynnwys dethol o archif ac offer y Âé¶¹Éç yn y MakerBox. Bydd syniadau ar gyfer straeon addas yn cael eu cyflwyno gan bartneriaid i’r Âé¶¹Éç a bydd y partneriaid llwyddiannus yn gweithio gyda thîm Cynnwys a Phartneriaethau Archif y Âé¶¹Éç i greu erthyglau a phrofiadau ar-lein i ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd.

  • Os oes darn penodol o gynnwys y byddech chi’n hoffi ei ddefnyddio o archif y Âé¶¹Éç, gallwch wneud cais amdano drwy ArchiveRequestsExternal@bbc.co.uk. Byddwn yn ymchwilio i weld a oes modd sicrhau ei fod ar gael i chi ar gyfer eich digwyddiad Gŵyl Art That Made Us. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd ar gael. Os ydych chi’n fodlon talu am glirio deunydd trydydd parti er mwyn gallu defnyddio deunydd archif, nodwch hynny yn eich e-bost. Bydd gofyn i sefydliadau drwyddedu cynnwys pwrpasol ar wahân.

Rydych yn cytuno i gyfrannu at waith ac arferion cydweithredu gyda’r Âé¶¹Éç a’i bartneriaid eraill ar gyfer Gŵyl Art That Made Us.

_________________________________

ATODIAD I

TRWYDDED AR GYFER DEFNYDDIO BRANDIO ART THAT MADE US

1 PARTÏON
(1) Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, corfforaeth gyhoeddus sydd wedi’i hymgorffori yng nghyfreithiau Cymru a Lloegr gan y Siarter Frenhinol. Mae ei phrif swyddfa yn Broadcasting House, Portland Place, Llundain, W1A 1AA (“y Âé¶¹Éç”); a

(2) Chi “Partner yr Å´yl”
Sef y “Partïon” gyda’i gilydd

2 BRANDIO’R Âé¶¹Éç
Bydd brandio Art That Made Us yn cael eu darparu gan y Âé¶¹Éç drwy e-bost ar ôl i chi gofrestru.

3 DISGRIFIAD O’R EITEM(AU)
Y brandio i’w ddefnyddio ar bosteri, taflenni a ddeunyddiau hyrwyddo eraill ac ar-lein

4 PWRPAS YR EITEM(AU)
Hyrwyddo digwyddiadau Partner yr Å´yl yn ystod Gŵyl Art That Made Us 1-30 mis Ebrill 2022 neu yn ystod cyfnod darlledu Art That Made Us ar Âé¶¹Éç TWO

5 CYFNOD DEFNYDDIO
O: pan fyddwch yn derbyn y Telerau ac Amodau
Tan: 30 Mehefin 2022

6 TIRIOGAETH
Y DU (gan ddeall na fydd safleoedd Partneriaid yr Å´yl o reidrwydd yn cael eu rhwystro’n ddaearyddol)

Mae'r Âé¶¹Éç yn rhoi trwydded anghyfyngedig i Bartner yr Å´yl ddefnyddio brandio Art That Made Us a ddisgrifir yn adran 2 uchod (“Brandio’r Âé¶¹Éç”) yn unol â’r amodau canlynol:

1. Dim ond ar yr eitemau a ddisgrifir yn adran 3 y ceir defnyddio Brandio’r Âé¶¹Éç. Mae’n rhaid defnyddio'r rhain at y diben a nodir yn adran 4 yn unig, a dim ond yn y Diriogaeth a nodir yn adran 6 y ceir eu dosbarthu (neu, os yw’n dudalen ar y rhyngrwyd, rhaid iddi fod wedi’u hanelu at y Diriogaeth honno). Mae’n rhaid i Bartneriaid ddefnyddio Brandio’r Âé¶¹Éç yn unol â’r Canllawiau Brandio.

2. Gellir eu defnyddio fel y dangosir ar y sampl o’r eitemau a ddisgrifir yn Adran 3 yng nghyswllt defnydd Partneriaid o Frandiau y Âé¶¹Éç.

3. Rhaid i’r gwaith celf ar gyfer unrhyw logo a ddefnyddir ar yr eitemau gael ei ddarparu gan y Âé¶¹Éç.

4. Byddwch yn defnyddio Brandio’r Âé¶¹Éç ar eitemau cyhoeddus yn ystod y cyfnod a ddangosir yn adran 5 uchod. Fodd bynnag, byddwch yn rhoi’r gorau i ddefnyddio Brandio’r Âé¶¹Éç yn gynharach na’r dyddiad a nodir os cewch gyfarwyddyd ysgrifenedig i wneud hynny gan y Âé¶¹Éç oherwydd nad ydych Chi wedi cydymffurfio â thelerau’r drwydded hon, neu eich bod yn tarfu ar hawliau’r Âé¶¹Éç wrth ddefnyddio Brandio’r Âé¶¹Éç.

5. Bydd yr eitem(au) hyn yn cael eu defnyddio yn unol ag enw da’r Âé¶¹Éç a'r Nod(au) Masnach ac yn cydymffurfio â Chanllawiau Masnachu Teg y Âé¶¹Éç ac unrhyw ganllawiau perthnasol a roddwyd i chi gan y Âé¶¹Éç, yn ogystal ag unrhyw amodau yn y Prif Gytundeb, a’r cyfreithiau, codau ymarfer, safonau a rheoliadau perthnasol.

6. Rydych chi’n cydnabod mai’r Âé¶¹Éç yw perchennog Brandio'r Âé¶¹Éç, yr hawlfraint sydd ynddynt a’r ewyllys da sy'n perthyn iddynt, a’r Âé¶¹Éç fydd yn berchen ar unrhyw fudd a gewch o ddefnyddio Brandio'r Âé¶¹Éç. Ni fyddwch yn gwneud nac yn ceisio gwneud cais am unrhyw nod masnach mewn perthynas â Brandio’r Âé¶¹Éç. Nid yw'r Âé¶¹Éç yn gwarantu na fydd hawliau trydydd partïon yn gwrthdaro o fewn Brandio’r Âé¶¹Éç yn unrhyw ran o’r Diriogaeth, a byddwch yn indemnio’r Âé¶¹Éç am unrhyw golled iddo o ganlyniad i ddefnyddio Brandio’r Âé¶¹Éç ac, os bydd y Âé¶¹Éç yn gwneud hynny'n ofynnol, dylech yswirio eich hun yn erbyn yr atebolrwydd hwn.

7. Ni fyddwch yn defnyddio Brandio’r Âé¶¹Éç mewn unrhyw ffordd neu at unrhyw ddiben gwahanol i'r hyn a nodir yn y drwydded hon, nac yn defnyddio enw’r Âé¶¹Éç nac unrhyw un o’i nodau masnach, dim ond yn unol â hon ac unrhyw drwydded ysgrifenedig arall a roddir i chi gan y Âé¶¹Éç.

8. Os byddwch yn dod yn ymwybodol bod unrhyw beth yn tarfu ar hawliau’r Âé¶¹Éç yng nghyswllt Brandio’r Âé¶¹Éç, neu'n dod yn ymwybodol o unrhyw honiad eich bod yn tarfu ar hawliau unrhyw un arall wrth eu defnyddio, byddwch yn rhoi gwybod i Bennaeth Eiddo Deallusol a Chyfreithiol Corfforaethol y Âé¶¹Éç yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl. Ni fyddwch yn gwneud dim byd arall, oni bai am gynorthwyo’r Âé¶¹Éç ym mha bynnag ffordd sy'n rhesymol mewn unrhyw gam y gallai ei gymryd yn erbyn y troseddwr neu'r hawlydd, yn ddibynnol ar yr achos.

9. Ni fyddwch yn awdurdodi unrhyw drydydd parti i ddefnyddio Brandio’r Âé¶¹Éç nac yn neilltuo, yn trosglwyddo, yn is-drwyddedu nac yn cael gwared â’ch hawliau o dan y drwydded hon mewn unrhyw ffordd arall.

10. Mae’r drwydded hon yn nodi’r cytundeb cyfan rhwng y Âé¶¹Éç a chi mewn perthynas â’r mater hwn, a bydd yn cael ei ddehongli yn unol â chyfraith Lloegr, a bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr