Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Daloni Metcalfe

Rhodri Ogwen Williams yn gwahodd gwesteion i rannu eu hatgofion trwy'r bwydydd sydd wedi chwarae rhan allweddol yn eu bywydau. Guests talk about foods important to their lives.

Gwesteion 鈥� Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Daloni Metcalfe

Lleoliad y pryd bwyd 鈥� Amser Da, Llanrwst. Perchennog 鈥揇einiol ap Dafydd.

Mae'r ddau westai wedi eu magu yn ardal Llanrwst a thrwy ddewis eu bwydlen arbennig yn dwyn i gof bwydydd a phrydau sydd wedi creu cymaint o argraff arnynt dros y blynyddoedd.

Bwydlen Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Cregyn Gleision Amser Da
Cig Oen Cymreig, tatws a llysiau
Caws Cymreig

Bwydlen Daloni Metcalfe
Coctel Corgimwch
Hyrddyn Llwyd
Llanast Llanrwst

Riset Cregyn Gleision Amser Da.
25g Menyn Calon Wen
1-2 Sialotsyn, tynnu鈥檙 croen a鈥檜 torri鈥檔 fan
1 ewin garlleg, tynnu鈥檙 croen a'i falu
1cilogram o Gregyn Gleision o'r Fenai
3/4 litr Chwadan Aur (Bragdy'r Nant)
2-3 llwy fwrdd persli ffres, wedi ei falu鈥檔 fan
Pinsied o Halen M么n

1 鈥� Toddi鈥檙 menyn mewn sosban fawr
2 鈥� Ychwanegu鈥檙 shallots ar garlleg a'i goginio am funud
3 鈥� Ychwanegu鈥檙 Cerrig Gleision ac arllwys y cwrw, cymysgu, troi鈥檙 gwres i fyny a rhoi ceuad ar y sosban.
4 - Coginio gan ysgwyd yr sosban bob hyn a hyn. Diosg unrhyw gerrig sydd heb agor
5 - Arllwys i bfwlen hefo'r sudd, ei addurno gyda phersli a'i weini gyda bara soda Cymrieg

45 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 5 Medi 2012 13:15

Darllediadau

  • Sul 2 Medi 2012 13:16
  • Mer 5 Medi 2012 13:15