Robin McBryde a Caryl Thomas
Rhodri Ogwen Williams yn gwahodd gwesteion i rannu eu hatgofion trwy'r bwydydd sydd wedi chwarae rhan allweddol yn eu bywydau. Guests talk about foods important to their lives.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Lleoliad y pryd bwyd : Gwesty鈥檙 Arth 鈥楤ear鈥� yn y Bontfaen
Mae hanes y dafarn a'r gwesty hwn yn dyddio n'ol i'r ddeuddegfed ganrif. Mae'n fwy adnabyddus efallai fel y man ble byddai pobl yn aros tra roedd y ceffylau'n cael eu newid ar daith y goets fawr o Gaerdydd i Abertawe neu Lundain. Mae na son fod carcharorion yr ardal yn cael eu cadw yn y seler - sydd erbyn hyn yn stafell giniawa - cyn iddyn nhw gael eu crogi ar y tir comin uwchben y dref!
听
Dyma'r tro cyntaf i'r ddau westai Robin McBryde a Caryl Thomas gyfarfod ond dros bryd o fwyd, maent yn sylweddoli fod ganddynt lawer yn gyffredin. Mae pob cwrs wedi ei ddewis ganddyn nhw a hynny am yr atgofion sy'n gysylltiedig 芒'r bwyd.
听
Past Cyri Gwyrdd
-
12 tshili bach gwyrdd wedi eu torri
-
2 sialotsyn wedi eu torri
-
4 ewinedd garlleg wedi eu torri
-
darn modfedd o galangal neu sinsir, wedi ei dorri
-
pecyn bach o goriander
-
6 darn o lemon grass wedi eu torri
-
sest leim
-
10 pupren du
-
hanner llwy de o hadau coriander
-
chwarter llwy de o hadau cumin
-
6 llwy ford o olew<?xml:namespace prefix = o ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />
听
Rhostiwch yr hadau coriander a cumin mewn padell ffrio sych a wedyn rhaid eu malu yn f芒n yngh欧d 芒鈥檙 pupren du.
听Cyfunwch bopeth, heblaw am yr olew, mewn cymysgydd drydan, ac ar 么l ychydig funudau, ychwanegwch yr olew i wneud past eithaf sych.
听Mi wnaiff y past yma bara yn yn y rhewgell am rhyw dair wythnos.
听
听Cyri Gwyrdd Cyw I芒r i 6 o bobl
听
3 llwy bord o Bast cyri gwyrdd
2 tin 400 ml o laeth cneuen goco, neu 1 tin a 400 ml o stoc
2 lwy bord o nam pla 鈥� saws pysgodyn
2 lwy de o sigwr, (sigwr palmwydden os yn bosib)
6 deilen leim kaffir, neu sest leim
sudd 1 leim
6 brest cyw i芒r wedi ei dorri
200g o lysiau gwyrdd
llond dwrnaid o pea aubergines
llond dwrnaid o basil thai melys
听
Ffriwch y past cyri mewn frympan sych am bum munud i ryddhau鈥檙 gwynt aromatic.
听Ychwanegwch y llaeth cneuen goco, y nam pla, y sigwr, y dail a鈥檙 sudd leim.
听Aroswch ychydig i鈥檙 llaeth gymryd blas y cynhwysion eraill.
听Ychwanegwch y cyw i芒r, y llysiau gwyrdd a鈥檙 pea aubergines, a鈥檌 goginio ar wres isel nes bod y cyw i芒r wedi ei goginio.
听Ychwanegwch y basil thai melys.
听Gweiniwch gyda reis thai a choriander m芒n wedi ei dywallt drosto.
听
听
听
Darllediadau
- Sul 16 Medi 2012 13:16麻豆社 Radio Cymru
- Mer 19 Medi 2012 13:15麻豆社 Radio Cymru