Bore Cothi Penodau Canllaw penodau
-
Casia Wiliam
Casia Wiliam yw Bardd Plant Cymru 2017-2019, a bardd preswyl Radio Cymru ym mis Medi.
-
Teganau Clasurol
O dedi bêrs i ddoliau, mae stampiau sy'n dathlu teganau'n rheswm da dros hel atgofion.
-
Tommy Farr
80 mlynedd ers i'r Cymro Tommy Farr gael ei drechu gan Joe Louis, Gareth Jones sy'n cofio.
-
Chwist
Mansel Charles sy'n trafod poblogrwydd gêm gardiau chwist yng Nghymru heddiw.
-
Prydau Anarferol Cŵn
Y milfeddyg Meleri Tweed sy'n trafod prydau anarferol mae cŵn yn mwynhau eu bwyta.
-
Her Smwddio
Mae gan Judith Jones her smwddio i Shân a Garry Owen, a syniadau ar gyfer hwyluso'r dasg.
-
Teisen Sbwnj
Croeso cynnes dros baned a theisen sbwnj gyda Shân a'i gwestai, Beca Lyne-Pirkis.
-
Clociau Enwog
Wrth i Big Ben dawelu am flynyddoedd, mae Rebecca Hayes yn clywed am glociau enwog eraill.
-
Rebecca Hayes yn cyflwyno
Rebecca Hayes sy'n sedd Shân i drafod pa mor barod yw pobl i argraffu lluniau o'r ffôn.
-
18/08/2017
Ar ôl rhyddhau ei halbwm, Perlau Pefriol / Scintillation, mae Elfair Grug yn ymuno â Shân.
-
Pinc
O'r 'catwalk' i win rhosliw, mae Shân yn rhoi tipyn o sylw i binc yn y rhaglen hon.
-
Titanic
Wrth i Rebecca Hayes gadw sedd Shân yn dwym, mae'n nodi 20 mlynedd ers rhyddhau Titanic.
-
Annibyniaeth India
Rebecca Hayes sydd yn sedd Shân, 70 mlynedd ers i Ddeddf Annibyniaeth India ddod i rym.
-
Rebecca Hayes yn cyflwyno
Croeso cynnes dros baned gyda Rebecca Hayes yn lle Shân Cothi.
-
Gemau yn y Car
Mi welaf i, â'm llygad bach i... Elinor Wyn Reynolds yn trafod gemau i'w chwarae yn y car.
-
Generation Game
Gyda fersiwn newydd o'r Generation Game ar y gweill, Ieuan Rhys sydd â hanes y rhaglen.
-
Trenau
Pawb ar y trên! Arfon Haines Davies sy'n sôn am deithiau trên eiconig.
-
Ambrosia
Ganrif ers agor ffatri Ambrosia yn Nyfnaint, Wini James sy'n nodi pen-blwydd y brand.
-
Eisteddfod Llanbed
Dathliad o hanner can mlwyddiant Eisteddfod Llanbed gyda Dorian Jones a Delyth Phillips.
-
Henry Ford
Yn cynnwys hanes y diwydiannwr Americanaidd Henry Ford.
-
Sioe Frenhinol Cymru: Iau
Ymunwch â Shân Cothi ar grwydr yn Sioe Frenhinol Cymru 2017 yn Llanelwedd.
-
Sioe Frenhinol Cymru: Mercher
Ymunwch â Shân Cothi ar grwydr yn Sioe Frenhinol Cymru 2017 yn Llanelwedd.
-
Cyngres Delynau'r Byd
Caryl Thomas a Rhiain Dyer sy'n edrych ymlaen at Gyngres Delynau'r Byd yng Nghaerdydd.
-
Caryl yn cyflwyno
Croeso cynnes dros baned gyda Caryl Parry Jones yn sedd Shân Cothi.
-
Caws
Brie, Caerffili neu Edam? Mae Nerys Howell yn ymuno â Shân i drafod caws.
-
Dysgu yn Tsieina
Sut beth yw byw a dysgu yn Tsieina? Anna Mair Parry sydd â'r atebion.
-
Muppets
Wrth i Kermit the Frog gael llais newydd, mae Gary Slaymaker yn trafod y Muppets â Shân.
-
Caneuon Serch
Cleif Harpwood sy'n trafod pobl sydd wedi ysbrydoli eraill i sgwennu cân serch amdanynt.
-
Llun Perffaith
Sut mae tynnu'r llun perffaith? Betsan Haf Evans sydd ag awgrymiadau.
-
Ffilmiau Cowbois
Dafydd Hywel sy'n mynd â ni i'r Gorllewin Gwyllt i drafod ei hoffter o ffilmiau cowbois.