Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Troedio'n ofalus

A ydi llwybrau cyhoeddus dan fygythiad gan doriadau, drain a thirfeddianwyr? Is the public footpath network under threat from budget cuts, overgrowth and landowners?

Manylu sydd ar grwydr ar hyd llwybrau cyhoeddus Cymru i glywed pryderon am eu dyfodol.
Gyda miloedd o filltiroedd o lwybrau cyhoeddus yng Nghymru, mae'n sialens i'r awdurdodau lleol eu cadw nhw i gyd yn agored.
Ond mae rhoi rhwydd hynt i gerddwyr grwydro yng nghefn gwlad yn gallu creu tensiwn - a mwy o gostau i'r awdurdodau ddatrys unrhyw anghydfod.
Gyda rhai cynghorau yn ofni cwtogi eu gwariant ar gynnal llwybrau cyhoeddus oherwydd toriadau i鈥檞 cyllid, mae llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu'r hawl i grwydro.
Mae鈥檙 rhaglen yn clywed am criw sy鈥檔 dweud eu bod nhw鈥檔 cael eu rhwystro rhag defnyddio llwybyr ar hyd Afon Mawddach gan berchnogion tai cyfagos. Mae鈥檙 rhaglen hefyd yn ymweld 芒 llwybr arfordir ym Mhen Ll欧n sydd wedi cau 鈥� enghraifft o鈥檙 cyngor sir yn methu yn ei dyletswyddau statudol yn 么l y cynghorydd lleol.
Ond gyda arian yn brin, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 awdurdodau ganfod arbedion yn rhywle.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 15 Tach 2015 13:30

Darllediadau

  • Iau 12 Tach 2015 12:31
  • Sul 15 Tach 2015 13:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad