Sut fu farw Trooper Aled Jones?
Rhaglen am frwydr rhieni milwr o Gymru i brofi nad lladd ei hun wnaeth eu mab. The story of a Welsh couple fighting to prove that their soldier son did not kill himself.
Wrth i鈥檙 cwest barhau i farwolaeth Cheryl James o Langollen yng ngwersyll milwrol Deepcut, dyma hanes teulu arall o Gymru sy鈥檔 honni nad ydyn nhw wedi cael y gwir am farwolaeth eu mab deunaw oed 鈥� y tro hwn yn Bosnia, ugain mlynedd yn 么l.
Aeth Aled Martin Jones o Chwilog i Bosnia ym Mehefin 1996. Dair wythnos ar 么l cyrraedd, caofdd ei ddarganfod yn farw. Roedd wedi ei saethu鈥檔 ei ben, a鈥檌 wn wrth ei ochr. Roedd ymchwiliad gan heddlu鈥檙 fyddin, a dyfarnodd crwner iddo ladd ei hun.
Ond dydi teulu Aled Jones ddim yn credu mai lladd ei hun wnaeth o. Maen nhw鈥檔 dweud nad oedd arwydd o gwbl ei fod yn isel ei ysbryd. Maen nhw hefyd yn dweud bod nifer o anghysonderau yn adroddiad y fyddin.
Yn y rhaglen hon, mae鈥檙 teulu yn codi amheuon am y dystiolaeth, ac yn feirniadol o鈥檙 modd maen nhw wedi eu trin gan y fyddin dros y ddau ddegawd diwethaf.
Mae鈥檙 fyddin yn dweud i鈥檙 ymchwiliad gael ei gynnal yn unol 芒鈥檙 rheolau, ac i鈥檙 crwner gael ei fodloni.
Gohebydd y rhaglen ydi Anna-Marie Robinson.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Iau 10 Maw 2016 12:30麻豆社 Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.