Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rheoli鈥檙 Wyddfa

A ddylai'r hanner miliwn o bobol sy'n cerdded i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn dalu tuag at edrych ar 么l y mynydd? Should walkers who climb Snowdon pay towards the mountain's upkeep?

Mae dros hanner miliwn o bobl yn cyrraedd brig yr Wyddfa bob blwyddyn. Dyma'r mynydd mwyaf poblogaidd yn Mhrydain 鈥� dau gan mil yn fwy na sy鈥檔 troedi Scafell Pike a Ben Nevis gyda鈥檜 gilydd 鈥� ac mae鈥檙 nifer yn cynyddu.

Mae'r difrod mae nhw鈥檔 ei achosi yn bwnc llosg a'r cynnydd blynyddol yn y niferoedd sy'n dod i'r ardal yn f锚l i rai a gwenwyn i eraill.

Gyda dyfodol y mynydd yn effeithio ar ffermwyr, caffis, cwmni trenau a degau o fusnesau mae ei reoli yn fwy o sialens na'i gerdded erbyn hyn ac mae鈥檙 holl beth wedi mynd yn rhy bell yn ol rhai sy鈥檔 galw ar I bobl dalu am y fraint.

Yn digwydd bod mae "Partneriaeth Yr Wyddfa" 鈥� sef cyfuniad o grwpiau, y Parc Cenedlaethol, asiantaethau a鈥檙 gymuned leol - yn anelu i godi arian tuag at gostau prosiectau cadwraeth lleol a chael ymwelwyr i gyfranu mwy i鈥檙 ardal.
Un o'r prif bethau mae'r Bartneriaeth wedi cytuno arno yn barod ydy i beilotio cynllun "Visitor Giving" o'r enw Rhodd Eryri fydd yn dibynnu ar fusnesau lleol i annog - ond nid gorfodi - eu cwsmeriaid i gyfrannu. Mae nhw hefyd am ofyn i gwmniau sydd yn trefnu rasus a digwyddiadau yn yr ardal i gyfranu am eu cynnal o hyn ymlaen.

Bydd yr arian sy鈥檔 cael ei gasglu yn ystod y cynllun peilot deunaw mis yn mynd tuag at adfer rhan o lwybr Llanberis i鈥檙 gopa鈥檙 Wyddfa, datblygu llwybrau o gwmpas troed y mynydd, ac hefyd tuag at prosiect i addysgu pobol ifanc am sgiliau traddodiadol cefn gwlad. Os yn llwyddiannus, y gobaith ydi creu cynllun parhaol ar draws Eryri.

Cymysg ydy'r ymateb gan fusnesau i'r syniad o ofyn i ymwelwyr roi rhodd 鈥� a Manylu sydd yn holi faint o effaith fydd hyn yn ei gael ar dwristiaeth yr ardal.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 22 Mai 2016 16:00

Clip

Darllediadau

  • Iau 19 Mai 2016 12:30
  • Sul 22 Mai 2016 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad