Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Tywydd

Trafod y tywydd drwy archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

"Chwefror teg yn difetha鈥檙 unarddeg", "Glaw y Sulgwyn, ffrwythlon drwy鈥檙 flwyddyn" - mae sawl hen ddywediad am y tywydd, ac mae'r Prifardd Dic Jones a Twm Elias yn trafod rhai o'r hen goelion a dywediadau. Cawn hefyd glywed hanes y g葍n Stella ar y Glaw; Geraint Lovgreen a'r Enw Da sy鈥檔 ei chanu ond Myrddin ap Dafydd bia鈥檙 geiriau ac mae鈥檔 rhoi hanes cael ei hysbrydoli ar 么l gwyliau glawog yn Ne Ffrainc.

Mae Islwyn Ffowc Elis yn cofio gaeafau caled ei blentyndod, a Dr Huw Morgan o Brifysgol Aberystwyth yn astudio'r haul, ac yn bennaf, coron yr haul.

O'r Corona i'r Chomolungma, a Dei Tomos yn clywed hanes mynydd ucha鈥檙 byd yng nghwmni Dewi Jones, sydd wedi sgwennu llyfr am y cysylltiad rhwng Everest 芒 Chymru.

Sali Evans sy鈥檔 cofio eira mawr 1946/47. Roedd Sali yn byw ym Mhontarddulais, ond roedd ei Mam yn byw yn Felindre. Aeth yn aml i helpu ei Mam gyda鈥檙 golchi, ond y tro hwn roedd yr eira wedi dechrau disgyn ...

Aeth Arwyn Davies i ardal Cwm Ystwyth i ymweld 芒 chymuned hunan gynhaliol oedd yn byw yn yr awyr agored, i sgwrsio efo Bethan Bray a gofyn sut oedden nhw鈥檔 paratoi at y gaeaf? Ac mae Robin Williams yn cofio hafau hirfelyn tesog y dyddiau a fu ac atgofion melys am ei "sandshoes" a oedd yn cael eu peintio efo Blanco er mwyn eu cadw'n wyn.

Ac yn ola鈥�, mae John Huws yn holi Graham Thomas, Cilgerran, a oedd yn arbenigo ar y tywydd ac effaith y tywydd ar yr amgylchedd. Cynhesu mae'n mynd i wneud yn hytrach na mynd yn oerach - sut mae esbonio hynny? Mae chwarter canrif ers y sgwrs yma ...a faint wir sy鈥� di newid?

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 18 Ebr 2021 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediad

  • Sul 18 Ebr 2021 14:00