Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

06/11/2022

Leisa Gwenllian yn sgwrsio 芒 phobl sy'n gwneud gwaith anhygoel i wella'r amgylchedd. Leisa Gwenllian chats with people that are doing great things to help the environment.

Mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i ardal Machynlleth i gyfarfod rhai o鈥檙 bobol yno sydd yn gwneud gwaith difyr ac anhygoel i wella鈥檙 amgylchedd. Mae鈥檔 ymweld 芒:

Canolfan y Dechnoleg Amgen, CAT, ac yn darganfod mwy am y gwaith sydd yn digwydd yna.

Y cerddor Liam Ricard sydd wedi astudio Pensaern茂aeth a bellach yn astudio Gradd Meistr mewn Adeiladu Gwyrdd.

Sally Carr ac Alys Rees sydd yn s么n am y ganolfan ddechreuodd bron i hanner can mlynedd nol gan griw o wirfoddolwyr oedd yn awyddus i fyw bywyd heb ddibynnu ar danwydd ffosil.

Criw sydd ynghlwm a thyfu llysiau mewn darnau o dir sydd ynghanol Machynlleth, Tyfu Dyfi a Mach Maethlon. Gobaith Jane Powell yw cael mwy o bobol i dyfu bwyd eu hunain a dechrau garddio.

Si芒n Stacey o Tir Canol - eu bwriad ydi dod a phawb at ei gilydd a gwella natur yn y Canolbarth, er budd i fyd natur. Maen nhw鈥檔 siarad gyda channoedd o bobol 鈥� ac yn ceisio di-garboneiddio, hybu cydweithio ar draws tirfeddianwyr a chreu gwahaniaeth. Mae hi hefyd yn ymgyrchu i gael gwell darpariaeth feics yn y Canolbarth, a gwell cyswllt rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.

Andy Rowlands, Eco Dyfi, sydd yn s么n am brosiectau ynni yn yr ardal.

Geraint Evans, un o Gyfarwyddwyr Cwmni Dulas. Fe ddechreuodd y cwmni yn CAT ac mae bellach yn cyflogi 60 o bobol gan greu oergelloedd sydd yn rhedeg ar ynni鈥檙 haul ac yn cael eu hallforio ar draws y byd.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 7 Tach 2022 18:30

Darllediadau

  • Sul 6 Tach 2022 18:30
  • Llun 7 Tach 2022 18:30