Mabwysiadu
Archif, atgof a ch芒n ar y thema mabwysiadu yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy ar y thema mabwysiadu.
Jeff Diamond yn cofio sut y collodd gysylltiad a'i fam ar 么l dod i Gymru yn ystod yr ail ryfel byd; Gerallt Wyn Jones sy'n esbonio sut y cafodd ei fabwysiadu yn chwe mis oed o Fanceinion a chael ei fagu ym Methesda, Gwynedd; Y canwr Bedwyr Morgan yn rhoi cefndir i鈥檙 g芒n 鈥楧im Ond Atgof鈥� oedd wedi ei ysbrydoli gan hanes cynnar Iestyn Garlick.
Hefyd:
Gwawr Job Davies sy'n s么n am bwysigrwydd preifatrwydd er mwyn gwarchod ei efeilliaid ifanc; Stewart Jones sy'n cofio teithio i'r Alban i gyfarfod ei rieni gwaed am y tro cyntaf; Stori Bedri y bachgen o gafodd ei ddarganfod yn fabi bach mewn bocs ar y ffin rhwng Twrci a Syria a'i fagu gan Carren Lewis ym Mhenrhyndeudraeth; Steffan Edwards-Ramos sy'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws fel tad; Sera Cracroft yn esbonio fod ei thad wedi aros yn Llangefni ers cael ei ddanfon yn efaciw卯 o Hendon, Llundain adeg yr Ail Ryfel Byd; Yr actor opera sebon Haydn Holden a fabwysiadodd Matteo y ci o China a Huw Williams yn dweud stori鈥檙 anthem a'r gwrthwynebiad a fu pan geisiwyd mabwysiadu 鈥楬en Wlad fy Nhadau鈥� fel anthem swyddogol y genedl.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 4 Chwef 2024 13:00麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2
- Llun 5 Chwef 2024 18:00麻豆社 Radio Cymru