Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Iechyd a lles yng nghefn gwlad

Terwyn Davies sy'n clywed gan bobl sy'n cyfrannu at iechyd a lles pobl cefn gwlad Cymru. The stories of people who contribute to the health and well-being of rural people in Wales.

Terwyn Davies sy'n clywed straeon unigolion sy'n cyfrannu at iechyd a lles pobl cefn gwlad Cymru.

Robin Jones, ffermwr ifanc o ardal yr Wyddgrug, sydd wedi troi hen sied amaethyddol yn gampfa gymunedol. Mewn byd ffermio sy鈥檔 gallu bod yn un unig, mae Farm Fit yn fan i gwrdd, i gryfhau鈥檙 corff a鈥檙 gymuned.

Hefyd, Mari Arthur o gwmni Tetrim Teas yn Nhrimsaran, Sir Gaerfyrddin sy'n s么n sut mae'n trawsnewid perlysiau Cymreig yn gymysgeddau llesol o de, gyda 75% o鈥檜 cynhwysion yn dod o Gymru.

A Gwen Lloyd o Bantperthog ger Machynlleth, sy鈥檔 s么n am gelfyddyd reiki, a sut y mae hi鈥檔 trin anifeiliaid a phobl fel ei gilydd 鈥� gan ddangos bod iechyd mewn sawl ffurf, weithiau heb air na meddyginiaeth.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 10 Awst 2025 15:30

Darllediadau

  • Sul 27 Ebr 2025 07:00
  • Sul 27 Ebr 2025 15:30
  • Sul 10 Awst 2025 07:00
  • Sul 10 Awst 2025 15:30