Cigydd newydd yng Nghaerfyrddin
Dafydd Davies o gwmni Dewi James sy'n sôn am agor siop newydd yng Nghaerfyrddin. Dafydd Davies from Dewi James Butchers talks about opening a new shop in Carmarthen.
Dafydd Davies o gwmni Dewi James sy'n sôn am agor siop newydd yng Nghaerfyrddin ymhen rhai wythnosau.
Hefyd, cawn glywed am brofiadau tymor cyntaf myfyrwraig o Ynys Môn, Sonia Rowlands, wrth iddi ddechrau astudio yng Ngholeg Glynllifon ger Caernarfon. Hefyd, y darlithydd Esmor Wyn Hughes sy'n sôn am batrwm y cwrs yn ystod y flwyddyn.
Iwan ap Llyfnwy, Rheolwr a Prif Fragwr cwmni Cwrw Llŷn yn Nefyn sy'n sôn am Seidr Sant – seidr y maen nhw'n ei gynhyrchu am yr ail flwyddyn yn olynol.
Y newyddion diweddaraf o'r martiau anifeiliaid gyda Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru, ac Elliw Griffith, Llysgennad Sioe Môn sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Sul 16 Tach 2025 07:00Âé¶¹Éç Radio Cymru
- Sul 16 Tach 2025 15:30Âé¶¹Éç Radio Cymru