Main content

Rhodri Llywelyn yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Gabriella Jukes, Gruff McKee a'r gohebydd Cennydd Davies yw'r panel chwaraeon sy'n trin a thrafod digwyddiadau'r penwythnos; hefyd sgwrs gyda'r parasyrffiwr Llywelyn Williams o Abersoch sy'n bencampwr byd am y bedwaredd blwyddyn yn olynol;

Cawn nodi 130 mlynedd ers y Pelydr X cyntaf, a s么n sut mae'r maes wedi datblygu o ran caniatau i ni ddehongli gwybodaeth drwy sganiau gwahanol yng nghwmni Dr Jenna Tugwell Allsup;

A Golygydd Gwleidyddol asiantaeth PA Media yn Llundain, Rhiannon James, sy'n rhannu cyngor ynglyn 芒 sut y dylie ni ddelio 芒 chamwybodaeth ddigidol.

27 o ddyddiau ar 么l i wrando

1 awr

Darllediad diwethaf

Dydd Llun 13:00