Main content

Meinir Gwilym

Beti George yn holi'r gantores a'r gyflwynwraig Meinir Gwilym. Beti George interviews the singer and presenter Meinir Gwilym.

Meinir Gwilym, y gantores sydd wedi cynhyrchu 6 albwm dros 20 mlynedd, yw gwestai Beti George.

Mae hi hefyd yn gyflwynwraig radio a theledu, ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi Garddio a Mwy ar S4C - ac yn aelod o'r gr诺p Pedair.

Cawn ei hanes ym Mhatagonia gyda Pedair a datblygiad y gr诺p. Mae hi'n trafod heriau cerddorion Cymraeg a'r gostyngiad mewn breindaliadau, effaith y llwyfannau digidol a pa mor anodd ydi hi bellach i wneud bywoliaeth fel cerddor.

Fe fydd yn trafod crefydd ac fe gawn glywed sut mae hi'n mynd ati i greu caneuon a phwysigrwydd geiriau, a鈥檙 ysbrydoliaeth sy鈥檔 dod o brofiadau bywyd.

Mae bywyd personol a chefndir teuluol Meinir Gwilym yn cael sylw, gan gynnwys hanes y teulu, perthynas 芒 rhieni a brodyr, a鈥檙 dylanwad cerddorol yn y cartref. Mae鈥檙 sgwrs yn cynnwys atgofion am blentyndod, addysg, a鈥檙 ffordd y mae cerddoriaeth yn rhan annatod o鈥檙 teulu.

30 o ddyddiau ar 么l i wrando

56 o funudau

Ar y Radio

Heddiw 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Meinir Gwilym

    Hon Yw 'Mharadwys i

    • Caneuon Tyn yr Hendy.
    • Sain.
    • 08.
  • Elton John & Brandi Carlile

    Who Believes In Angels?

    • Who Believes In Angels?.
    • EMI.
  • Georges Bizet

    The Pearl Fishers: Au Fond du Temple Saint "Pearl Fishers Duet"

    Conductor: Renato Cellini. Orchestra: The RCA Victor Orchestra.
    • I Love Classical Music - #1 Timeless Greats.
    • Unchained Melod铆e.
    • 22.
  • Tecwyn Griffiths

    Ti Yw Fy Mywyd

    • Canu Paradwys.
    • Sain.

Darllediadau

  • Dydd Sul 18:00
  • Heddiw 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad