Mati Roberts
Beti George yn holi'r nyrs Mati Roberts, sydd wedi helpu i sefydlu ysgol yn Ghana. Beti George interviews nurse Mati Roberts, whose Ghana‑inspired jewellery helps funds a school.
Beti George sydd yn cael cwmni ysbrydoledig Mati Roberts, y Nyrs o Gaerdydd sydd wedi helpu i sefydlu ysgol yn Affrica yn ei amser rhydd.
Pan welodd Mati Roberts decstilau lliwgar mewn siop yn Affrica fe newidiodd llwybr ei bywyd hi a chymuned gyfan yn Ghana am byth.
Deuddeg mlynedd ers disgyn mewn cariad gyda'r defnydd mae ganddi fusnes creadigol sy'n rhoi hwb i economi'r wlad ac yn helpu addysgu dros 200 o blant - a hyn oll wrth barhau i weithio fel nyrs arbenigol yng Nghaerdydd, yn diogelu plant ac yn gofalu am iechyd rhywiol pobol ifanc.
Mae Mati yn sôn iddi ddarganfod fod ganddi ddyslecsia a dyspracsia wrth astudio yn y Coleg.
Cawn glywed hefyd stori hyfryd am ei Thaid, y diweddar John Rowley oedd yn Bennaeth y Âé¶¹Éç yng Nghymru am gyfnod, gafodd ei adael yn fabi bach yn amddifad wrth giât fferm teulu caredig yn Bwlch y Cibau ger Llanfyllin.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Clip
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Huw Chiswell
Rhywbeth O'i Le
- Goreuon.
- Sain.
- 8.
-
Gustav Holst
Jupiter From The Planets Suite, Op. 32
Conductor: Sir Roger Norrington. Orchestra: Stuttgart Radio Symphony Orchestra.- A Royal Wedding - Essential Ceremonial Music.
- Classic Fox Records.
- 16.
-
Ebo Taylor
Heaven
- Ebo Taylor.
- Strut.
- 5.
-
Afro Cluster
Love Thing
- We Don Land.
- Not On Label (Afro Cluster Self-released).
- 2.
Darllediadau
- Sul 22 Chwef 2026 18:00Âé¶¹Éç Radio Cymru
- Iau 26 Chwef 2026 18:00Âé¶¹Éç Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people