Main content

Peredur Glyn

Beti George yn holi Peredur Glyn awdur a Darllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd. Beti George interviews Peredur Glyn University lecturer and novelist.

Yr awdur a darlithydd Peredur Glyn yw gwestai Beti George.

Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2025 am ei nofel Anfarwol sy’n dilyn bywyd yr actor enwog o’r ddeunawfed ganrif, Theophilus Cibber.

Daw Peredur Glyn o Ynys Môn, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy.

Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.

Mae Peredur wedi bod yn darlithio ym maes ieithyddiaeth ers dros bymtheg mlynedd. Bellach mae’n Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd yn Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau ysgolheigaidd ar ieithyddiaeth y Gymraeg, gan gynnwys am amrywiaeth sosioieithyddol, newid gramadegol a chyfnewid côd.

Cawn hanesion ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys 'My Eyes Are Fully Open' – Gilbert and Sullivan, mae Peredur wedi bod yn arwain ac yn perfformio operâu Gilbert and Sullivan ers blynyddoedd ac yn aelod selog o gorau Hogia Llanbobman a Chôr Esceifiog.

21 o ddyddiau ar ôl i wrando

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 12 Maw 2026 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • John Eifion

    Llanrwst

    • John Eifion.
    • SAIN.
    • 2.
  • The Beatles

    From Me To You (2023 Mix)

    • The Beatles 1962 – 1966 (2023 Edition).
    • UMC (Universal Music Catalogue).
    • 5.
  • D'Oyle Carte Opera Company, Isidore Godfrey & The D’Oyly Carte Opera Company

    My Eyes Are Fully Open

    • Gilbert and Sullivan: More Vintage Favourites.
    • Regis Records.
    • 19.
  • Hogia Llanbobman

    Hafgan

Darllediadau

  • Sul 8 Maw 2026 18:00
  • Iau 12 Maw 2026 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad