Rhys Jones
Beti George yn holi Rhys Jones, datblygwr eiddo o'r Bala sydd bellach yn byw yng ngwlad Pwyl a Norwy. Beti George interviews Rhys Jones, property developer, from Bala to Poland.
Datblygwr eiddo o’r Sarnau ger y Bala yw gwestai Beti George, ond sydd erbyn hyn yn rhannu ei amser rhwng Gwlad Pwyl a Norwy.
Doedd Rhys ddim yn rhy hoff o’r Ysgol, ond yn mwynhau gweithio allan yn yr awyr agored gyda’I Dad ar y fferm, ac yn helpu gyda’i fusnes adeiladu. Fe aeth i’r coleg yn Llundain a chymhwyso fel syrfeiwr siartredig. Mae wedi treulio rhanfwyaf o’i fywyd yng ngwlad Pwyl lle mae ganddo gwmnïau ‘Real Estate’. Mae’r busnes wedi mynd ag ef i ddwyrain Ewrop yn ogystal â Sbaen ac mae ganddo fferm olewydd yn Sicily.
Mae hefyd yn treulio amser yn Norwy, lle mae ei deulu yn byw ac yn siarad sawl iaith.
Mae ganddo farn gref am sefyllfa economaidd Cymru ac mae’n sôn fel mae Gwlad Pwyl yn ffynnu, ac mae’n credu'r dyle ni gefnogi ein ffermwyr a’n busnesau lleol. Mae hefyd yn sôn ein bod yng Nghymru yn annog talent i fynd i’r byd actio a chanu ond ddim i fyd busnes.
Ac mae’n sôn hefyd am Wcráin ac effaith y rhyfel ar Wlad Pwyl.
Mae hefyd yn awdur y llyfr “Taming the Monkey Brain – A Welshman’s Journey to the Heart of America.
Ar y Radio
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Clip
-
Bywyd rhyngwladol Rhys Jones o'r Sarnau
Hyd: 03:03
Darllediadau
- Dydd Sul 18:00Âé¶¹Éç Radio Cymru
- Dydd Iau Nesaf 18:00Âé¶¹Éç Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people